Ymgyrchwyr gwrth-frechu yn 'fygythiad'
- Cyhoeddwyd
Mae prif swyddog meddygol Cymru wedi rhybuddio am y bygythiad gan ymgyrchwyr gwrth-frechu.
Yn ei adroddiad blynyddol, dywedodd Dr Frank Atherton fod angen gwneud pobl yn ymwybodol o fanteision brechlynnau.
Ym mis Ionawr, dywedodd Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd bod "gwybodaeth anghywir" am ddiogelwch brechlynnau yn cael ei lledaenu ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae corff iechyd plant y byd, Unicef, yn dweud bod dros 500,000 o blant yn y DU heb eu brechu yn erbyn y frech goch rhwng 2010 a 2017.
Yn ôl Dr Atherton, mae cyfradd y plant dwy oed yng Nghymru sy'n cael y dos cyntaf o'r brechlyn ar gyfer rhwystro'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) yn is na 95%.
Dyna'r gyfradd sy'n ofynnol i amddiffyn poblogaeth rhag clefyd, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis cael eu brechu, ond mae lleiafrif bychan yn dal heb ei argyhoeddi gan ddiogelwch a manteision brechu," meddai Dr Atherton.
"Mae angen i ni weithio gyda chlinigwyr ac arbenigwyr eraill i sicrhau bod rhieni'n cael gwybodaeth lawn am fanteision brechu, er mwyn sicrhau bod y brechlyn yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf ac i gyflawni ein nod o ddileu clefydau y gellir eu hatal.
"Yn yr un modd, mae angen i bobl hŷn ddeall manteision brechu yn erbyn ffliw, clefyd niwmococol a'r eryr (shingles)."
Galw am ddwyn i gyfrif
Yn ôl Dr Phil White, sy'n arwain ar frechu ac imiwneiddio ar Bwyllgor Meddygon Teulu Cymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru, mae angen dwyn y rhai sy'n rhannu gwybodaeth ffug am frechu i gyfrif.
"Drygioni ydy hwn," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mawrth.
"Maen nhw'n ei wneud o'n bwrpasol, does dim sail wyddonol o gwbl i be' mae'r bobl yma'n ddweud, a falle dylai rhai o'r rhain gael eu cymryd i gyfraith, oherwydd maen nhw'n dweud anwiredd llwyr.
"Dyna'r unig ffordd. Da 'ni di gweld hwn efo'r rhyngrwyd. Mae'n dipyn o broblem, mae 'na lot o anwiredd yna, ac mae'n rhaid i rywun wneud rhywbeth yn ei gylch o."
Gorddefnydd o wrthfiotigau
Y llynedd, gofynnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i rieni gael eu plant wedi'u brechu ar ôl achosion o'r frech goch o amgylch de-ddwyrain Cymru.
Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar y bygythiad o wrthwynebiad i wrthfiotigau.
Mae gorddefnydd byd-eang o wrthfiotigau wedi arwain at ostyngiad yn eu heffeithiolrwydd, wrth i facteria allu eu gwrthsefyll.
Mae'r adroddiad yn dweud bod hyn eisoes wedi arwain at nifer fach o heintiau anodd eu trin, gan arwain at "fethiant therapi a chymhlethdodau posibl".
Wrth ganolbwyntio ar leihau defnydd gwrthfiotigau mewn meddygfeydd, gwelwyd gostyngiad o bron i 12% yn eu defnydd dros bum mlynedd, yn ôl yr adroddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018