Cyhoeddi enw nyrs a fu farw mewn car yn yr afon yn Wyllie
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw menyw gafodd ei chanfod yn farw mewn car yn Afon Sirhywi yn Sir Caerffili ddydd Mawrth.
Roedd Laurie Jayne Jones, 23 o Bontllanfraith ger y Coed Duon wedi ei hadrodd ar goll ar ôl iddi fethu a dychwelyd adref yn dilyn shifft nyrsio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dyw'r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Cafodd swyddogion eu galw i'r B4251 yn Wyllie ger y Coed Duon tua 13:00 ddydd Mawrth.
'Colled drasig'
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Mae teulu Ms Jones yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac maen nhw'n diolch i bawb am eu geiriau caredig ac am rannu'r apêl i geisio dod o hyd iddi.
"Mae meddyliau pawb yn y llu gyda theulu a ffrindiau Laurie Jones ar hyn o bryd."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd ar Fro: "Mae pawb yn drist o fod wedi colli Laurie.
"Hoffai'r bwrdd iechyd anfon ein cydymdeimlad i deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr Laurie Jones.
"Roedd Laurie yn gweithio fel nyrs plant yn yr uned frys, mae'n golled drasig i'w theulu a'r GIG o fod yn nyrs wnaeth ddewis gyrfa yn gofalu am eraill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019