Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-0 Queens Park Rangers

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd gôl gyntaf Marlon Pack i Gaerdydd ers symud i'r clwb yn yr haf

Fe wnaeth Clwb Pêl-droed Caerdydd sicrhau'r tri phwynt yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher yn wrth iddyn nhw roi cweir i Queens Park Rangers.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen wedi 11 munud, gyda'r capten Sean Morrison yn rhwydo wedi i Aden Flint benio cic rydd Lee Tomlin i'w lwybr.

Llwyddodd y tîm cartref i ddyblu eu mantais ym munud olaf yr hanner cyntaf, gyda Marlon Pack yn sgorio o gic gornel.

Ychwanegodd Callum Paterson drydedd gydag 20 munud yn weddill, wrth iddo daro foli i gefn y rhwyd o groesiad Leandro Bacuna.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn codi i'r 10fed safle yn y Bencampwriaeth.