Gwrthwynebiad i symud archifdy sirol o Garchar Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Archifdy
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae archifau Sir Ddinbych yn cael eu cadw mewn rhan o Hen Garchar Rhuthun

Mae gwrthwynebiad yn Rhuthun i gynlluniau i symud archifdy sirol o'r dref.

Nod prosiect newydd ydy uno casgliadau Sir Ddinbych a Sir y Fflint mewn adeilad pwrpasol gwerth £16.6m yn Yr Wyddgrug.

Ar hyn o bryd, mae lle yn brin yn archifdai'r ddwy sir.

Ond mae un o gynghorwyr Rhuthun yn dweud y bydd yn brwydro yn erbyn y syniad.

Cais am grant

Mae archifau Sir Ddinbych yn cael eu cadw mewn rhan o Hen Garchar Rhuthun.

Yng nghelloedd yr adeilad cofrestredig mae'r dogfennau eu hunain, ac mae'n debygol na fydd lle ar ôl ymhen dwy neu dair blynedd.

Canolbwynt archif ar y cyd rhwng y sir honno a Sir y Fflint fyddai adeilad pwrpasol drws nesaf i Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad cychwynnol o'r adeilad pwrpasol gwerth £16.6m yn Yr Wyddgrug

Yn ôl y cynlluniau cynnar byddai'n golygu llai o wariant ar gynnal a chadw'r dogfennau, gan roi lle pwrpasol i'r dogfennau.

Mae disgwyl i'r prosiect hysbysu Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ystod mis Hydref bod ganddyn nhw ddiddordeb gwneud cais am grant.

'Braw'

Ond nid symud dogfennau Sir Ddinbych o'r sir ydy'r ateb yn ôl y Cynghorydd Emrys Wynne, sy'n cynrychioli'r dref.

"Dwi'n hollol anfodlon gyda'r hyn sydd ger ein bron ni ar hyn o bryd," meddai.

"Mae wedi bod yn fraw i ni mewn gwirionedd bod y cynnig wedi dod mor hwyr yn y dydd - ym mis Awst gawson ni wynt gyntaf bod 'na fwriad i drafod hyn.

"Dwi wedi clywed neb yn dweud eu bod nhw yn cyd-fynd â'r cynigion."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne ei fod yn "hollol anfodlon gyda'r hyn sydd ger ein bron ni"

Awgrymodd y Cynghorydd Wynne y gallai adeilad arall sy'n rhan o safle'r Hen Garchar - ac sydd wedi bod yn wag ers i Gyngor Sir Ddinbych symud eu swyddfeydd oddi yno rai blynyddoedd yn ôl - gael ei addasu fel gofod ar gyfer dogfennau'r archifdy, fel na fyddai angen symud y casgliad o'r dref.

Ond yn ôl y cynlluniau adleoli, "ychydig iawn" o obaith sydd o ehangu'r safle yn Rhuthun.

Mae'r cynllun hefyd yn nodi bod archifdy Sir y Fflint yn yr Hen Ficerdy ym Mhenarlâg yn orlawn, gyda'r sir yn gorfod talu am ofod masnachol i gadw'u dogfennau.

'Problem fawr'

Er ei fod yn credu bod angen diogelu'r dogfennau a bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy, dywedodd ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Lleol Rhuthun bod pryderon am yr adeilad gwag fyddai'n cael ei adael ar ôl pe bai'r casgliad yn symud i'r Wyddgrug.

"Er bod y cyngor sir yn dadlau y byddan nhw'n gwneud astudiaeth i weld be' fedran nhw wneud efo'r hen adeilad, y gwir ydy bod rhan o'r carchar wedi bod yn wag ers pedair neu bum mlynedd rŵan oherwydd bod y cyngor wedi symud o'r adeilad," meddai Gareth Evans.

"Dwi'n meddwl fod y cyngor sir yn creu problem fawr i gymuned Rhuthun oherwydd hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Evans fod y cyngor yn "creu problem fawr i gymuned Rhuthun"

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ddinbych nad oes sicrwydd y bydd yr archifdy yn symud o Ruthun.

"Bydd staff o archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn gweithio i'r un gwasanaeth o fis Ebrill 2020 ond o'r lleoliadau presennol," meddai llefarydd.

"Mae'r trafodaethau ynghylch cael archifdy ar y cyd yn Sir y Fflint yn eu dyddiau cynnar a does dim penderfyniad wedi'i gymryd. Dim ond syniad yw hwn ar hyn o bryd.

"Bydd y trafodaethau yn mynd rhagddynt ond mi fyddai angen sicrhau arian allanol i symud ymlaen gyda phrosiect o'r fath."

Yn ôl y cynlluniau cynnar, gallai'r syniad gael ei wireddu erbyn 2023.