Annog adolygu mesur cludiant i'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Dyw rhai plant ag anghenion arbennig ddim yn derbyn addysg gan nad oes cludiant priodol a diogel ar eu cyfer, medd Comisiynydd Plant Cymru.
Yn ei hadroddiad blynyddol, mae Sally Holland wedi annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r mesur 11 oed sy'n delio gyda chludiant i ysgolion.
Ar hyn o bryd mae cynghorau â'r hawl i beidio darparu cludiant i ddisgyblion pan maen nhw'n cyrraedd 16 oed.
Mae rhiant un disgybl yn ei arddegau sydd ag ADHD ac awtistiaeth yn dweud fod newidiadau i drefniadau teithio wedi achosi iselder iddo.
Yn ei hadolygiad o'r flwyddyn aeth heibio, mae Ms Holland hefyd yn galw am:
Trefn gadarnach o ddelio gyda bwlio, sydd yn flaenoriaeth i blant eu hunain. Mae cofnodi achosion o fwlio yn ddewisol i ysgolion, ond dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod hyn yn orfodol;
Cyllid newydd ar gyfer gofal preswyl i'r nifer bach o bobl ifanc gyda'r anghenion mwyaf cymhleth o ran iechyd meddwl. Mae'n "bryderus iawn" fod dau ganolfan preswyl Cymru yn methu cymryd plant sydd ag ymddygiad "risg uchel";
Cynllun manwl sy'n nodi camau ymarferol i bob adran o Lywodraeth Cymru i daclo effaith tlodi plant - heb y camau yna fe fydd yn parhau'n "heriol".
Ar fater cludiant ysgol, dywedodd Ms Holland fod plant ag anghenion dysgu arbennig yn wynebu risg ychwanegol o gael eu gadael i lawr pan fo newidiadau, ac nad yw'r sefyllfa bresennol "yn ddigon da".
Dywedodd ei bod wedi gweld sawl achos dros y blynyddoedd diweddar o'r "effaith anferth" y mae cludiant annigonol yn ei gael ar blant.
Yn ogystal â bod newid trefniadau arferol yn arwain at straen, roedd y plant hefyd yn aml yn cael trafnidiaeth oedd ddim yn cwrdd â'u hanghenion.
Effeithio ar ymddygiad
Mae gan fab Jane Owen - Jesse, sy'n 14 oed - ADHD, awtistiaeth ac anhwylder herfeiddiwch gwrthbleidiol (oppositional defiance disorder), ac mae'n dweud na chafodd ei anghenion eu hystyried pan gafodd trefniadau cludiant ysgol eu newid gan y cyngor lleol.
"Aeth e'n isel iawn a gwrthod mynd i'r ysgol," meddai Ms Owen.
"Fe gafodd hynny effaith negyddol ar ei ymddygiad ar ôl i hwnna sefydlogi a gwella wedi misoedd o waith caled. Aeth e'n ynysig yn gymdeithasol ac roedd adegau pan oedd e ddim yn cysgu o gwbl... oedd yn golygu fod e'n methu'r ysgol.
"Roedd y cyfan yn rhwystredig ac yn straen mawr."
Ychwanegodd Ms Owen bod cyfathrebu yn broblem fawr, a bod newid i'r drefn arferol yn gallu effeithio ar ymddygiad.
"Mae llythyrau at rieni sy'n rhoi manylion o gludiant ysgol yn cael eu gyrru ychydig ddyddiau yn unig cyn dechrau tymor newydd, sy'n rhoi dim amser o gwbl i baratoi'r plentyn am y newid," meddai.
Erbyn 2021, bydd cynlluniau dysgu unigol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed gydag anghenion addysgol arbennig fel awtistiaeth, syndrom Asberger ac ADHD yn cael eu cyflwyno.
Dywedodd y Comisiynydd y dylai'r gyfraith newydd ddarparu cyfleoedd addysgol ychwanegol, ond bod angen i bobl ifanc fedru teithio i gael mynediad iddyn nhw.
Mae'r adroddiad blynyddol yn canmol rhai cerrig milltir a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y Senedd Ieuenctid cyntaf yn y Cynulliad a dileu'r amddiffyniad o "gosb resymol" i ddisgyblu plant.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i sicrhau y gallai dysgwyr deithio i ddarparwyr addysg yn ddiogel a'i bod yn cydnabod bod heriau ychwanegol wrth gludo rhai disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
"Mae hyn yn cynnwys teithio ymhellach, teithio ar sail unigol neu mewn grwpiau bach, neu ei gwneud yn ofynnol i gynorthwywyr eu helpu ar eu taith," meddai llefarydd.
"Mae'r mesur teithio i ddysgwyr yn nodi'r dyletswyddau i ddarparu trafnidiaeth ddiogel i ddysgwyr, ac mae'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn darparu'r cefndir deddfwriaethol i wella canlyniadau i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol."