Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-2 Stoke

  • Cyhoeddwyd
andre ayew a sam clucasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andre Ayew a Sam Clucas yn cystadlu am y bêl

Mae Abertawe wedi llithro oddi ar frig y tabl yn y Bencampwriaeth ar ôl colli yn y munud olaf gartef yn erbyn Stoke.

Cafodd yr Elyrch y dechrau perffaith i'r ornest wrth i Andre Ayew sgorio yn y munud cyntaf ar ôl amddiffyn blêr gan yr ymwelwyr.

Ond roedd Stoke yn gyfartal cyn yr egwyl wrth i rediad Joe Allen greu cyfle i un arall o gyn-chwaraewyr Abertawe, Sam Clucas unioni'r sgôr.

Ac fel yr oedd hi'n edrych fel petai'r gêm am orffen yn gyfartal, llwyddodd yr eilydd Scott Hogan i rwydo yn y cwrt cosbi i sicrhau buddugoliaeth cyntaf y Potters yn y gynghrair y tymor yma.