Y Bencampwriaeth: West Brom 4-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd West Brom i oroesi ymdrech hwyr gan Gaerdydd i gipio'r tri phwynt a chodi i frig y Bencampwriaeth.
Roedd y tîm cartref yn gyfforddus ar y blaen ar yr egwyl yn dilyn goliau gan Matheus Pereira a Grady Diangana.
Ychwanegodd Charlie Austin drydedd gydag 20 munud i fynd, ac roedd y gêm yn edrych fel ei bod hi ar ben fel gornest.
Ond brwydrodd Caerdydd yn ôl diolch i ddwy gôl gan yr eilydd Danny Ward, cyn i Romaine Sawyers sgorio pedwaredd West Brom yn y munud olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth.