Pro14: Zebre 28-52 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Will Talbot-DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae'r Dreigiau wedi ennill oddi cartref yn y gynghrair am y tro cyntaf ers pedair blynedd gyda buddugoliaeth pwynt bonws yn Zebre.

Yr Eidalwyr oedd â'r fantais yn yr hanner cyntaf, gyda cheisiau cynnar Iacopo Bianchi a Giovanni Licata yn eu rhoi nhw 14-0 ar y blaen.

Brwydrodd y Dreigiau yn ôl i unioni'r sgor gyda chais gosb ac yna un gan Rhodri Williams, cyn i Josh Renton sgorio i roi Zebre ar y blaen unwaith eto ar yr egwyl.

Ond newidiodd y gêm o fewn munud i ddechrau'r ail hanner wrth i asgellwr Zebre Charlie Walker gael ei anfon o'r cae ar ôl cael ei ail gerdyn melyn.

Rhoddodd hynny hwb i'r Cymry ac fe wnaeth Owen Jenkins a Jordan Williams groesi i roi'r Dreigiau ar y blaen am y tro cyntaf a sicrhau pwynt bonws.

Llwyddodd Sam Davies gyda chic gosb cyn i geisiau pellach gan Jenkins, Taine Basham a Harrison Keddie roi sglein ar y fuddugoliaeth.

Cafodd Zebre gais gosb yn y munud olaf i sicrhau pwynt bonws eu hunain, ond y Dreigiau fydd yn dychwelyd adref yn hapus ar ôl dod â'r rhediad hirfaith honno heb ennill i ben.