Cyhoeddi enw cerddwr fu farw ar ôl cael ei daro gan fan
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau enw cerddwr a fu farw wedi gwrthdrawiad ger Tywyn yng Ngwynedd nos Sadwrn.
Roedd Anthony Brown yn 38 oed ac o ardal Wolverhampton.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod wedi "mwynhau noson allan yn Nhywyn nos Wener ac roedd yn edrych ymlaen at weddill ei benwythnos" yng ngogledd Cymru ar ôl teithio yno ar drên.
"Roedd ei holl deulu yn caru Anthony ac fe fydd yn cael ei golli yn ofnadwy," meddai'r datganiad.
"Hoffwn ni ddiolch o galon i'r holl wasanaethau brys a wnaeth eu gorau i achub Anthony."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â'r gwrthdrawiad gyda fan Mercedes Vito llwyd, a ddigwyddodd ychydig cyn 21:45 ar 5 Hydref.
Gan gydymdeimlo â theulu Mrs Brown, dywedodd y Sarjant Raymond Williams o'r Uned Plismona'r Ffyrdd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrech y swyddog heddlu ac aelodau'r cyhoedd i achub ei fywyd cyn i'r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd.
"Aeth aelod o'r cyhoedd i'r orsaf heddlu leol am 21:46 i roi gwybod bod dyn wedi cerdded i'r ffordd ac fe wnaeth swyddog ymateb yn syth," meddai.
Ychwanegodd eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un a deithiodd ar y ffordd rhwng Tywyn a Bryncrug rhwng 21:00 a 21:45, a allai fod wedi gweld cerddwr yn yr ardal.
Maen nhw hefyd yn gofyn i bobl a lluniau dash cam neu luniau CCTV adeiladau cyfagos i gysylltu â nhw trwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 19100577148.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2019