Cymru yn herio Fiji yng Nghwpan Rygbi'r Byd Japan

  • Cyhoeddwyd
Gatland a'r garfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysbryd yn uchel yn y garfan cyn wynebu Fiji ddydd Mercher

Bydd Cymru'n wynebu Fiji yng Nghwpan Rygbi'r Byd fore Mercher, gan wybod y bydd buddugoliaeth yn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Mae'r prif hyfforddwr, Warren Gatland wedi dewis 15 cryf gan wneud dim ond dau newid i'r tîm gurodd Awstralia o 25-29 wythnos i ddydd Sul diwethaf.

Er iddo orfod gadael y cae yn erbyn Awstralia ar ôl cael ergyd i'w ben, mae'r maswr Dan Biggar yn dechrau yn Stadiwm Oita.

Mae Fiji wedi gwneud un newid i'r tîm drechodd Georgia o 45-10, gydag wythwr Caeredin, Viliame Mata yn dechrau.

Bydd Cymru'n wynebu Uruguay - a oedd, er syndod mawr, yn fuddugol yn erbyn Fiji - yn eu gêm grŵp olaf ddydd Sul.

Tîm Cymru:

L Williams; North, Jonathan Davies, Parkes, Adams; Biggar, G Davies; W Jones, Owens, Francis, Ball, AW Jones (capt), Navidi, James Davies, Moriarty.

Eilyddion: Carre, Dee, Lewis, Shingler, Wainwright, T Williams, Patchell, Watkin.

Tîm Fiji:

Murimurivalu; Tuisova, Nayacalevu, Botia, Radradra; Volavola, Lomani; Ma'afu, S Matavesi, Saulo, Cavubati, Nakarawa, Waqaniburotu (capt), Kunatani, Mata

Eilyddion: Dolokoto, Mawi, Ravai, Ratuniyarawa, Yato, Matawalu, Vatubua, J Matavesi.

Dilynwch Cymru v Fiji ddydd Mercher, 9 Hydref o 10:00 ar Cymru Fyw gyda sylwebaeth lawn hefyd ar BBC Radio Cymru o 10:15