Marwolaeth Pontypridd: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Sarah HassallFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Sarah Hassall ei bod yn "ffrind gorau" iddynt

Mae dyn 37 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes ym Mhontypridd dros y penwythnos.

Cafodd Sarah Hassall, 38 oed ac yn wreiddiol o Essex, ei chanfod ar ôl i'r heddlu gael eu galw i gyfeiriad yn Llys Graig Y Wion ddydd Sul.

Mae disgwyl i Brian Manship, o Bontypridd, ymddangos yn llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher.

Yn gynharach ddydd Mawrth dywedodd teulu Ms Hassall ei bod yn "ffrind gorau" iddynt ac y byddai'r teulu'n "ddiolchgar am y cyfnod byr y cawsom yn ei chwmni".

Fe wnaeth Mark O'Shea o Heddlu De Cymru ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth, gan ychwanegu bod "digwyddiadau o'r fath yn brin ofnadwy".