Galw am bleidlais rydd i weinidogion ar enw'r Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
CynulliadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones yn cynnig defnyddio'r term Welsh Parliament yn Saesneg a Senedd Cymru'n Gymraeg

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y prif weinidog i ganiatáu pleidlais rydd i weinidogion Llywodraeth Cymru cyn pleidlais ar enw'r Cynulliad yn ddiweddarach.

Bydd ACau yn pleidleisio ddydd Mercher os ddylid defnyddio'r enw 'Senedd' neu os fydd termau dwyieithog yn cael eu mabwysiadu.

Mae Plaid Cymru ac ymgyrchwyr iaith eisiau i'r enw fod yn Gymraeg yn unig, tra bod Mark Drakeford yn cefnogi enw dwyieithog.

Nid y bleidlais yw'r penderfyniad terfynol ar y mater, ond fe fydd yn rhan allweddol o'r broses i benderfynu beth fydd yr enw terfynol.

Mae'n un o nifer o faterion fydd yn cael eu hystyried gan ACau ddydd Mercher ar y Mesur Senedd ac Etholiadau.

Cynnig Carwyn Jones

Mae'r cyn-brif weinidog, Carwyn Jones wedi cyflwyno newid i'r mesur fyddai'n golygu mai Senedd Cymru fyddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y sefydliad yn y Gymraeg a'r term Welsh Parliament yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg.

Mae Mr Drakeford wedi dweud y bydd aelodau meinciau cefn Llafur yn cael pleidlais rydd ar y mater, ond y bydd gweinidogion y llywodraeth yn cael eu chwipio i gefnogi'r cynnig.

Disgrifiad o’r llun,

"Dylai pobl allu cymryd perchnogaeth o un enw sy'n perthyn i bob un ohonom," meddai Rhun ap Iorwerth

Dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei bod yn "nawddoglyd tybio na fydd y rhai nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg yn deall yr enw Senedd".

"Er bod hwn yn fater sy'n mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid, rwy'n apelio ar y prif weinidog ar yr unfed awr ar ddeg i ddangos hyder yng ngallu pobl Cymru, pa bynnag iaith y maent yn ei siarad," meddai.

"Dylai pobl allu cymryd perchnogaeth o un enw sy'n perthyn i bob un ohonom.

"Dyma ein Senedd, enw unigryw ar gyfer Senedd unigryw."

'Tanseilio'r enw Cymraeg'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gefnogi enw dwyieithog i'r sefydliad.

"Mae llawer yn cyfeirio at y sefydliad fel 'y Senedd' yn barod, yn y ddwy iaith - fel maen nhw'n ymfalchïo wrth ganu geiriau Cymraeg ein hanthem genedlaethol," meddai cadeirydd y mudiad, Osian Rhys.

"Mae gan bawb yr hawl i fwynhau'r pethau unigryw Gymraeg yma - a does gan neb hawl i ddweud nad ydyn nhw'n perthyn i ddysgwyr a phobl ddi-Gymraeg hefyd.

"Drwy osod enw Saesneg ar y Senedd, fe fyddai, yn anochel, yn normaleiddio'r enw hwnnw ac yn tanseilio defnydd o'r enw Cymraeg."

"Os gall pawb ddweud 'Dáil' neu 'Bundestag' heb yr angen am enw swyddogol Saesneg - pam na allwn ni wneud yr un peth gyda 'Senedd'?"

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr enw ar Aelodau'r Cynulliad yn newid hefyd ynghyd â'r enw

Mae dau aelod Llafur - Hefin David a Mike Hedges - wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi cynnig Plaid Cymru o gael enw Cymraeg yn unig.

Ond mae disgwyl i ACau Ceidwadol gefnogi cynnig Mr Jones, gydag arweinydd y grŵp, Paul Davies yn dweud bod y Cynulliad "wastad wedi bod yn sefydliad dwyieithog".