Arddangos deunydd ffrog Elizabeth I yn Llundain

  • Cyhoeddwyd
Brethyn allor Bacton ynghyd â phortread o Elizabeth IFfynhonnell y llun, Steve Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Brethyn allor Bacton ynghyd â phortread o Elizabeth I ym Mhalas Hampton Court

Mae darnau mawr o ffrog sy'n cysylltu Elizabeth I â'i chyfeilles Gymreig yn cael eu harddangos yn Llundain ar hyn o bryd.

Dyma'r unig ddefnydd o eiddo'r frenhines sydd wedi goroesi - fe'i darganfuwyd mewn eglwys yn Sir Henffordd.

Credir bod y ffrog yn anrheg er cof am Blanche Parry, y fenyw o Gymru fu'n gyfaill oes i'r frenhines.

Mae'r defnydd wedi'i adfer ym Mhalas Hampton Court a bydd yn cael ei arddangos yno tan fis Chwefror 2020.

Dyma'r tro cyntaf i'r defnydd, fu unwaith yn ffrog, gael ei arddangos yn gyhoeddus ers iddo gael ei ddarganfod ar wal eglwys St Faith's yn Bacton, Sir Henffordd, lle bu Blanche Parry yn addoli.

Mae'r brethyn wedi cael ei gysylltu yn lleol â Ms Parry ers amser maith, ond dim ond yn ddiweddar y cadarnhawyd fod cysylltiadau brenhinol iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Blanche Parry ei hun gomisiynodd y gofgolofn ohoni hi ei hun ac Elizabeth I ar gyfer yr eglwys yn Bacton

O fewn muriau St Faith's hefyd mae cofgolofn i Blanche Parry ac Elizabeth I - gwaith a gomisiynwyd gan Parry ei hun cyn ei marwolaeth.

Mae'r eglwys wedi'i lleoli dros y ffin yn Lloegr ond yn ystod cyfnod y Tuduriaid roedd hi'n ardal lle roedd Cymraeg yn cael ei siarad.

Roedd Ms Parry wedi'i geni i deulu o dirfeddianwyr a arferai gael eu diddanu gan feirdd o Gymru.

Arferai wasanaethu'r Elizabeth ifanc cyn iddi ddod yn frenhines a threuliodd oes yn ei chwmni.

Disgrifiad o’r llun,

Portread o Elizabeth I gan Isaac Oliver

Roedd ei dyletswyddau'n cynnwys rhannu gwely gydag Elizabeth ac mae ffynonellau yn cadarnhau ei bod yn forwyn a chydymaith ffyddlon.

Dechreuodd yr hanesydd a'r awdur lleol Ruth E Richardson ymddiddori yn y brethyn tra'n mynychu'r eglwys, ac yna ymchwiliodd i'r cysylltiad â Blanche Parry.

Ffynhonnell y llun, Pilley
Disgrifiad o’r llun,

Hen lun o ddarlun artist o Blanche Parry - mae'r llun ei hun ar goll

Dywedodd: "Roedd Blanche yn siarad Cymraeg, ac mae'n eithaf posib bod Elizabeth I, oedd yn siarad nifer o ieithoedd, yn deall rhai geiriau Cymraeg."

Yn 2016 cafodd y brethyn ei symud i Balas Hampton Court i'w adfer a'i gadw, ac roedd mewn cyflwr rhyfeddol er iddo gael ei fframio a'i roi ar wal yr eglwys am dros 100 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Palasau Brenhinol Hanesyddol/David Jensen

Mae'r edau aur ac arian yn y brethyn yn golygu bod y ffrog yn "wisg llys elitaidd", yn ôl Eleri Lynn, curadur gwisg hanesyddol Palasau Brenhinol Hanesyddol.

Dywedodd: "Mae wedi ei wneud o frethyn o arian, ac yn ôl y gyfraith fyddai hyn wedi'i gadw ar gyfer y Frenhines neu lefelau uchaf iawn y llys."

Ffynhonnell y llun, Palasau Brenhinol Hanesyddol/David Jensen
Disgrifiad o’r llun,

Y curadur Eleri Lynn gyda'r lliain

Mae Ms Lynn a chadwraethwyr eraill yn credu mai hwn yw'r unig ddilledyn sylweddol sydd wedi goroesi o gwpwrdd dillad Elizabeth I.

Credir bod y brethyn yn dyddio i'r cyfnod y bu Blanche Parry farw, a thybir iddo gael ei roi i Bacton er cof am un o ffrindiau agosaf y frenhines.

Mae wedi cael ei gadw yn ddiogel am ganrifoedd. Cafodd ei drawsnewid yn frethyn allor a'i gadw mewn amodau tywyll a helpodd i'w amddiffyn.

Ym 1909 cafodd ei fframio a'i roi ar wal yr eglwys lle bu tan 2016. Nawr mae copi manwl wedi'i osod ar wal yr eglwys yn lle'r un gwreiddiol.

Bydd y brethyn a fu unwaith yn ffrog yn cael ei arddangos ym Mhalas Hampton Court tan fis Chwefror 2020.