Ymchwiliad i hen fatresi sy'n 'anharddu' Parc Eryri

  • Cyhoeddwyd
Y matresi
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Hett, sy'n berchen ar y safle, ei fod wedi rhentu rhan o'r tir i fusnes ailgylchu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio wedi i nifer o fatresi a darnau o garped gael eu gadael ar safle ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae rhai cannoedd o hen fatresi i'w gweld ar y safle yn Hengwrt yn Llanelltud ger Dolgellau.

Yn ôl perchennog y safle, Paul Hett, mae busnes ailgylchu lleol wedi rhentu rhan o'r tir yno, a bydd y matresi'n cael eu symud yn fuan.

Dywedodd hefyd fod ganddo drwydded ar gyfer y safle a'i fod wedi trafod hyn gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru.

'Gresynu gweld dinistr o'r fath'

Dywedodd Euros Jones, rheolwr gweithrediadau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: "Yn dilyn adroddiadau bod llawer o ddeunydd gwastraff yn cael ei storio ar dir ger Llanelltud, mae ein swyddogion wedi ymweld â'r safle i weld a yw'r caniatâd angenrheidiol yn ei le ar gyfer y gweithgaredd.

"Wrth i'n hymchwiliad barhau, os oes gan unrhyw un rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni drwy ffonio 03000 65 3000."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn "gresynu gweld dinistr o'r fath mewn Parc Cenedlaethol ac yn annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau priodol".

"Nid yw hyn yn dderbyniol yn unrhyw le ond yn enwedig ar dirwedd ddynodedig," meddai.