Gyrrwr wedi marw wedi gwrthdrawiad dau gerbyd ym Magillt
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Y Fflint.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A548 ym Magillt ychydig cyn 08:00 ddydd Llun wedi gwrthdrawiad yn cynnwys Vauxhall Corsa a fan.
Cafodd ambiwlans awyr hefyd ei anfon i'r safle ond bu farw gyrrwr y Corsa yn y fan a'r lle.
Roedd disgwyl i'r ffordd ailagor cyn 13:00.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth neu luniau dash-cam all helpu'r ymchwiliad gan ddyfynnu'r cyfeirnod X149730.