Pryder am ymddygiad pobl ifanc mewn pentref ym Môn
- Cyhoeddwyd
Clywodd cyfarfod cyhoeddus mewn pentref ym Môn fod trigolion wedi cael llond bol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc yno.
Mae rhai wedi bod yn achosi problemau yn Llandegfan ac mewn pentrefi cyfagos, gan gynnwys taflu cerrig at geir.
Y gobaith ydy y bydd partneriaeth rhwng yr heddlu, Cyngor Môn a phobl leol yn gallu gwella'r sefyllfa.
Roedd tua 50 o bobl yn y cyfarfod nos Fawrth - yn eu plith Sian Jones, sy'n byw yn Llandegfan.
"Plant ifanc 'ma, ma' nhw'n cheeky, ma' nhw'n rude," meddai.
"O'n i'n dod allan o tŷ merch fi wythnos diwetha' a ges i abuse - o'n i wedi dychryn braidd achos toeddwn i ddim fel 'na pan oeddwn i'n ifanc.
"Dwi'n meddwl bod plant yn mynd yn waeth yn lle gwell - does dim math o gontrol arnyn nhw."
Un sy'n poeni'n fawr am y sefyllfa ydy'r cynghorydd Carwyn Jones, sy'n cynrychioli Llandegfan ar Gyngor Môn.
Dywedodd bod llond dwrn o bobl ifanc yn achosi problemau fel "cerrig yn cael eu taflu at geir, araith yn ofnadwy, bygwth personol, defnyddio eu beiciau yn beryg ofnadwy o flaen ceir".
Ychwanegodd ei fod yn pryderu y bydd rhywun yn cael eu "hanafu'n ofnadwy".
"Dwi'n erfyn ar bobl i beidio creu grŵps vigilantes," meddai. "Dwi wedi clywed bod 'na bobl yn barod i gymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain i sortio'r problemau allan."
Dywedodd yr Arolygydd Llinos Davies o Heddlu'r Gogledd, sy'n gyfrifol am blismona Môn, bod yr heddlu'n rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae'n rhywbeth sy'n cael effaith niweidiol ar ein cymunedau," meddai.
"Hefyd, 'da ni'n gwybod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu cynyddu yn sydyn i droseddu a 'da ni angen camu i mewn ar y pwynt lle maen nhw'n ymddwyn yn anghymdeithasol er mwyn trio atal a stopio pobl rhag symud ymlaen i droseddu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2019