Teyrnged i 'hen daid cariadus' wedi gwrthdrawiad ffordd

  • Cyhoeddwyd
Doug ChristophersonFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd/Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Douglas Christopherson mewn gwrthdrawiad ar yr A548 ger Bagillt

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn 95 oed wedi iddo farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Sir y Fflint ddydd Llun.

Dywedodd teulu Douglas Christopherson, oedd yn byw yn lleol, ei fod yn "dad, llystad, taid a hen daid cariadus".

Ychwanegodd y teulu eu bod yn ddiolchgar i'r cyhoedd a gweithwyr y gwasanaethau brys wnaeth geisio ei achub yn dilyn y digwyddiad.

"Yn anffodus wnaethon nhw ddim llwyddo, er gwaethaf eu hymdrechion dewr," meddai'r teulu mewn datganiad.

"Hoffem hefyd ddiolch i'r holl bobl sydd wedi anfon eu cydymdeimladau, y rhan fwyaf ddim yn 'nabod Doug."

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ar yr A548 ym Magillt toc cyn 08:00 rhwng Vauxhall Corsa, oedd yn cael ei yrru gan Mr Christopherson, a fan transit.

Ychwanegodd y llu eu bod yn apelio ar unrhyw dystion, neu rywun allai fod a delweddau dashcam o'r digwyddiad, i gysylltu â nhw.