Argymell gwellianau ar reilffyrdd wedi marwolaeth menyw
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i farwolaeth menyw o Benarth a fu farw ar ôl pwyso allan o ffenestr trên oedd yn symud wedi gwneud sawl argymhelliad i wella diogelwch ar y rheilffyrdd.
Bu farw Bethan Roper, 28 oed ar ôl iddi gael ei tharo gan gangen coeden pan oedd hi'n dychwelyd adref ar ôl ymweld â Chaerfaddon ar 1 Rhagfyr y llynedd.
Fe darodd ei phen ar gangen oedd wrth ymyl y cledrau yn Twerton y tu allan i Gaerfaddon pan oedd y trên yn teithio ar gyflymder o 75 m.y.a.
Yn ôl adroddiad gan Gangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffyrdd (RAIB) roedd posib agor y ffenestri ar y goets er mwyn i deithwyr allu rhoi eu braich allan ac agor y drws pan fyddai trên yn cyrraedd gorsaf.
'Diogelu'
Roedd arwyddion yn rhybuddio ond doedd dim i atal teithwyr rhag gwyro allan o'r trên pan oedd yn symud.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd y broses iechyd a diogelwch wedi adnabod y perygl hwnnw 'n hanesyddol.
"O ganlyniad, doedd Great Western Railway (GWR) heb ddarparu mesurau lliniaru digonol i ddiogelu rhag y risg," medd ymchwilwyr.
Mae'r RAIB wedi cynnig pedwar argymhelliad:
Mae'r cyntaf ar gyfer holl weithredwyr trenau teithwyr ar y brif lein. Rhaid lleihau'r cyfleoedd i deithwyr wyro allan o ffenest ollwng pan fydd y trên yn symud;
Mae'r ail argymhelliad i weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth, yn eu hannog i wella'r rheolaeth o risg wrth wyro allan o ffenestri;
Mae'r trydydd argymhelliad i gwmni GWR, ac yn dweud dylai'r gweinyddwyr leihau'r potensial fod peryglon yn cael eu hesgeluso;
Mae'r pedwerydd argymhelliad i'r Bwrdd Safonau Diogelwch Rheilffyrdd (RSSB). Mae'n dweud dylai'r arwyddion diogelwch adlewyrchu'r elfen ar gyfer gwahanol beryglon.
Mae'r pwyntiau sydd i'w dysgu yn cynnwys atgyfnerthu'r pwysigrwydd o archwilio coed a'r ffaith y dylai gweinyddwyr trenau fod a chamau effeithiol i ddelio gydag argyfyngau meddygol.
Fe gafodd cwest i farwolaeth Mr Roper ei agor a'i ohirio gan grwner Avon a Gwlad-yr-Haf fis Rhagfyr y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018