'Cosb gas' i wleidyddion Catalunya

  • Cyhoeddwyd
oriolFfynhonnell y llun, LLUIS GENE
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yn gorymdeithio gyda darlun o Oriol Junqueras, yn mynnu fod Llywodraeth Sbaen yn ei ryddhau. Medi 11, 2018 (diwrnod cenedlaethol Catalunya)

Yr wythnos yma cafodd gwleidyddion o Gatalunya eu carcharu am eu rhan i gynnal refferendwm annibyniaeth yno yn 2017.

Cafodd y 12 diffynnydd eu cyhuddo o annog gwrthryfel drwy gynnal pleidlais a oedd yn anghyfreithlon yn ôl Llywodraeth Sbaen.

Daeth beirniadaeth chwyrn gan Llywydd y Senedd, Elin Jones, wrth i naw o'r gwleidyddion gael eu carcharu am gyfnodau rhwng naw ac 13 mlynedd, ac fe gafodd tri arall gosb ariannol.

Ymysg y gwleidyddion gafodd eu carcharu mae Dr Oriol Junqueras, cyn-ddirpwy Arlywydd Catalunya.

Rhywun a oedd yn gweithio gyda Oriol am bum mlynedd ym Mrwsel tra'r oedd o'n Aelod Seneddol Ewropeaidd yw Sara Medi Jones.

Mae Sara bellach yn gweithio gydag Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (Campaign for Nuclear Disarmament) yn Llundain, ond mae hi dal yn ymwneud â gwleidyddiaeth Ewropeaidd ac yn esbonio pam mae hi'n credu ddylai'r digwyddiadau yng Nghatalunya fod o ddiddordeb i Gymru.

Rhai blynyddoedd yn ôl, roeddwn yn disgwyl am awyren ym maes awyr Barcelona efo cyd-weithiwr.

Roedd yr awyren yn hwyr ond roeddwn i'n ddigon dedwydd oherwydd y cyd-weithiwr oedd Oriol Junqueras, Aelod Seneddol Ewrop dros Esquerra Republicana de Catalunya (plaid Weriniaethol Chwith Catalonia).

13 mlynedd o garchar

Mae Oriol wastad yn llawn straeon diddorol (cyn dod yn wleidydd, roedd yn cyflwyno rhaglenni teledu ar hanes) a dadansoddiadau treiddgar.

Ond ni fydda i yn ei weld eto am flynyddoedd maith, gan ei fod wedi ei ddedfrydu i 13 mlynedd yn y carchar.

Ei drosedd? Trefnu refferendwm ar annibyniaeth i Gatalunya.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Oriol Junqueras, arweinydd y blaid 'Esquerra Republicana de Catalunya' (Gweriniaethwyr asgell chwith Catalunuya) mewn cyfarfod ymgyrchu yn Girona, Tachwedd 2012

Mae Catalunya yn ranbarth o Sbaen gyda phoblogaeth o wyth miliwn. Mae senedd yno sydd yn deddfu ar faterion fel iechyd, addysg a thrafnidiaeth - nid yn annhebyg i'r Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Refferendwm 2017

Yn 2015, enillodd pleidiau a oedd o blaid annibyniaeth yr etholiad gyda maniffesto yn gaddo refferendwm. Fe drefnwyd un ar gyfer Hydref 2017.

Er i Sbaen ddatgan fod y refferendwm yn anghyfreithlon a gwneud popeth posib i'w rwystro, pleidleisiodd 43% o etholwyr, gyda 92% yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Mae gen i ffrindiau a oedd yn gweithio yn trefnu'r refferendwm ac mae straeon amdanynt yn gorfod cuddio papur a phensiliau yn rhannol ysbrydoledig a rhannol ddigalon.

Beth bynnag yw eich barn ar annibyniaeth i Gatalunya, siawns bod rhaid cefnogi hawl y bobl i benderfynu ar eu dyfodol?

Ffynhonnell y llun, J. J. GUILLEN
Disgrifiad o’r llun,

Oriol Junqueras yn y llys ym Madrid yn ystod ei wrandawiad, Chwefror 12, 2019

Dyma'n union yw holl egwyddor hunan-benderfyniad, sy'n cael ei sicrhau gan y Cenhedloedd Unedig. Gwelsom refferendwm tebyg yn yr Alban yn 2014. Buasem i gyd yn lloerig petai Alex Salmond a Nicola Sturgeon yn wynebu carchar - sut mae'r sefyllfa yma'n wahanol?

Ynghyd ag Oriol, mae 11 gwleidydd ac arweinydd diwylliannol arall wedi eu dedfrydu i 100 mlynedd yn y carchar rhyngddynt.

Tra oedd Oriol yn Ddirprwy Arlywydd Catalonia, y Gweinidog Rhyngwladol oedd Raul Romeva, un arall oedd yn Aelod Seneddol Ewrop tra'r oeddwn i'n gweithio yn y Senedd.

Mae Raul hefyd yn ddyn cyfeillgar a hoffus. Beth sy'n gyffredin am Oriol, Raul a phob person arall yr ydw i'n adnabod o'r symudiad annibyniaeth yng Nghatalunya ydi eu hangerdd dros wella dyfodol eu gwlad.

Ffynhonnell y llun, SaraMediJones
Disgrifiad o’r llun,

Sara Medi Jones, sy'n wreiddiol o Ynys Môn ond bellach yn byw yn Llundain

Mae'r symudiad annibyniaeth yno hefyd yn un gyda diddordeb mawr yng ngweddill y byd. Mae'r sawl yr ydw i wedi eu cyfarfod wastad wedi dangos diddordeb mawr yng Nghymru, er enghraifft.

Unwaith fe wnes i gyfarfod newyddiadurwr o Barcelona mewn bar ym Mrwsel a phan ddywedais fy mod o Gymru, roedd eisiau fy nghyfweld ar y pethau sy'n debyg am y ddwy wlad. Dyddiau yn ddiweddarach, roeddwn ar dudalen flaen papur newydd gyda baner Cymru!, dolen allanol

Ffynhonnell y llun, La República
Disgrifiad o’r llun,

Sara Medi Jones gyda Oriol Junqueras, Jill Evans ASE a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies yng Nghaerffili ym mis Mawrth, 2011

Un o'r pethau am Gymru mae cefnogwyr annibyniaeth yn Catalunya gyda diddordeb mawr ynddo ydi'r ffordd yr ydym yn mynegi'n hunain fel cenedl.

Rydw i wedi gorfodi digon o Gatalaniaid i ddod i wylio gêm rygbi gyda mi yn ystod y Chwe Gwlad ac maen nhw wastad yn eiddigeddus ein bod yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon yn ein crys ni, gan ganu ein hanthem ni.

Felly beth nesa' i Oriol, y rhai eraill yn y carchar a Catalunya ei hun?

Mae protestio mawr wedi bod yn y strydoedd yn Catalunya ers i'r dedfrydau gael eu cyhoeddi. Ond nid oes llawer o brotestio wedi bod gan lywodraethau.

Ffynhonnell y llun, Clara Margais
Disgrifiad o’r llun,

Heddlu yn ceisio symud protestwyr sy'n gwrthwynebu triniaeth y gwleidyddion, gorsaf drenau Sants, Barcelona, Hydref, 2019

Mae gwleidyddion eraill wedi dianc o'r wlad - i Wlad Belg a'r Swistir - gan adael eu bywydau a'u teuluoedd. Rydw i'n 'nabod eraill a gollodd eu swyddi fel gweision sifil oherwydd iddynt gefnogi'r refferendwm ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Ond nid hyn fydd diwedd yr hanes. Mae polau piniwn yn dangos gall y pleidiau o blaid annibyniaeth ennill yr etholiad nesaf.

Ffynhonnell y llun, Europa Press News
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r protestiadau wedi creu dipyn o ddifrod ar y strydoedd yn Barcelona, gyda niwed i geir, adeiladau a thanau yn cael eu cynnau. Dyma'r olygfa yn Barcelona nos Fercher, Hydref 16, 2019

Yn ôl pob sôn, mae Oriol yn ymdopi yn y carchar, ac wedi dod yn dipyn o ffefryn gyda'i gyd-garcharorion. Mae'n rhoi gwersi hanes iddynt yn rheolaidd ac yn aml yn gorfod gwneud y wers ddwywaith gan fod gymaint o ddiddordeb!

Ond mae ganddo blant ifanc, fel nifer o'r carcharorion gwleidyddol eraill, ac mae methu eu plentyndod yn gosb gas.

Hefyd o ddiddordeb: