Taith bererindod i gysylltu 500 o lefydd sanctaidd
- Cyhoeddwyd
Mae taith bererindod wedi ei lunio sy'n cysylltu 500 o eglwysi a chapeli Cymru mewn ymgais i ddenu pobl yn ôl i'w gweld.
Daeth yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol a chorff Croeso Cymru at ei gilydd i lunio'r llwybr 440 milltir (708km) o hyd.
Mae Archwilio'r Gymru Gysegredig yn tynnu sylw at fannau sanctaidd sydd wedi'u hanghofio neu eu hesgeuluso.
Bydd y safleoedd yn cael eu harddangos ar-lein mewn ymgais i ddenu ymwelwyr.
Mae'r eglwysi a'r capeli ar hyd tri llwybr pwrpasol sydd wedi'u datblygu gan Croeso Cymru - Ffordd yr Arfordir, Ffordd Cambria a Ffordd y Gogledd.
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys ffilmiau a lluniau newydd, sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan raglen Llywodraeth Cymru.