Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Sheffield Wednesday

  • Cyhoeddwyd
Lee TomlinFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Lee Tomlin ymlaen fel eilydd wedi 76 munud a dod â Chaerdydd yn gyfartal ym munudau olaf y gêm

Sgoriodd yr eilydd Lee Tomlin gôl hwyr i ddod â Chaerdydd yn gyfartal ac osgoi colli i Sheffield Wednesday ar noson lawog yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen am fwyafrif y gêm, ac wedi cael y gorau o'r chwarae am gyfnod helaeth, ond fe wnaeth yr Adar Gleision sicrhau pwynt i warchod eu record gartref ddiguro ers dechrau'r tymor.

Ond roedd yna gwestiynau dros y gic rydd arweiniodd at y gôl, gyda thîm Garry Monk yn dadlau bod amddiffynnwr Caerdydd, Aden Flint yn camsefyll wrth i Tomlin ergydio ac yn amharu ar olwg y golwr, Cameron Dawson, ar y bêl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn dal yn 11eg yn y tabl.

Roedd yna ddechrau tawel i'r gêm a'r ddau dîm yn cael trafferth gosod eu stamp.

Ond roedd Caerdydd yn araf i ymateb wedi cic gornel fer a arweiniodd at gôl Julian Borner i roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi 19 o funudau.

Cafodd y gôl ei chreu gan gyn-asgellwr Caerdydd, Kadeem Harris a achosodd nifer o broblemau i'w hen dîm yn ei gêm gyntaf yn ôl yn y ddinas ers cael ei werthu i Sheffield Wednesday yn yr haf.

Cafodd tîm Neil Warnock well hwyl arni wedi'r egwyl ond roedd yr ymwelwyr yn edrych fel petaent am wrthsefyll y pwysau a chodi i'r ail safle yn y bencampwriaeth, cyn i Tomlin sgorio gyda phum munud yn weddill.