Y Bencampwriaeth: Barnsley 1-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Barnsley ac Abertawe fodloni ar bwynt yr un mewn gêm ddifyr yn Oakwell yn y Bencampwriaeth.
Daeth y gôl gyntaf ar ôl 70 munud wrth i André Ayew roi'r Elyrch ar y blaen, ond o fewn ychydig funudau daeth Alex Mowatt a'r tîm cartref yn gyfartal.
Fe wnaeth y ddau gôl-geidwad sawl arbediad allweddol drwy gydol y gêm a chollodd y ddwy ochr gyfleoedd i sgorio.
Er gwaethaf y pwynt mae Barnsley yn llithro i waelod y Bencampwriaeth, tra bod Abertawe yn bedwerydd.
Fe allai Barnsley fod wedi mynd ar y blaen o fewn y funud gyntaf, ond cafodd ymdrech Cauley Woodrow ei rwystro gan gôl-geidwad Abertawe, Freddie Woodman.
Daeth Barnsley yn agos eto 10 munud yn ddiweddarach, ac fe ddaeth ymgais gyntaf Abertawe i sgorio hanner ffordd trwy'r hanner cyntaf wrth i Ayew geisio cael y bêl heibio Bradley Collins.
Ayew oedd y bygythiad mwyaf i'r Elyrch ac fe brofodd Collins eto ar ôl yr egwyl, cyn darganfod cefn y rhwyd wedi awr o chwarae.
Ond ar ôl colli canolbwyntio fe ildiodd yr Elyrch y fantais gyda Alex Mowatt yn sicrhau pwynt gwerthfawr i'r tîm cartref.