Bachgen wedi trywanu cyd-ddisgybl mewn ysgol ym Mae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Eirias, Bae ColwynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Eirias ar fore Llun, 11 Chwefror eleni

Clywodd llys bod bachgen wedi trywanu cyd-ddisgybl yn yr ysgol i ddial am fod potel o wisgi wedi'i chymryd oddi arno.

Mae'r bachgen, 16, yn gwadu ceisio llofruddio'r bachgen yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn ar 11 Chwefror eleni.

Ond mae'r diffynnydd - nad oes modd ei enwi oherwydd ei oed - wedi cyfaddef cyhuddiad llai difrifol o anafu gyda bwriad.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug hefyd fod y bachgen wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi ystyried lladd rhywun ers peth amser.

Roedd y diffynnydd, a oedd yn 15 ar y pryd, wedi mynd tu ôl i'r bachgen arall yn yr ysgol a cheisio'i drywanu yn ei wddf gyda chyllell, clywodd y llys.

"Fe fethodd ac fe aeth y gyllell i ysgwydd [y bachgen]," meddai Myles Wilson ar ran yr erlyniad.

"Dywedodd y diffynnydd wrth yr heddlu ei fod wedi ceisio ei ladd. Doedd o ddim yn ei adnabod."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi dod â chyllell i'r ysgol dridiau cyn y digwyddiad, a bod hynny i'w weld ar system CCTV yr ysgol.

Ar ddiwrnod y digwyddiad, ar fore Llun, roedd y dirprwy bennaeth wedi cymryd potel o wisgi oddi ar y bachgen.

"Dywedodd ei fod yn flin fod ei wisgi wedi cael ei gymryd oddi arno. Roedd o eisiau dial," meddai Mr Wilson.

'Trywanu buwch ac oen'

Pan gafodd y diffynnydd ei gwestiynu gan yr heddlu, dywedodd ei fod "wedi bod yn meddwl am ladd rhywun ers peth amser".

Daeth y cyfweliad i stop er mwyn iddo gael archwiliad seiciatryddol.

Dywed yr erlyniad fod y diffynnydd wedi dweud mewn cyfweliad ei fod yn "hoff o'r syniad o ladd rhywun" a'i fod "eisiau'r profiad o sut fyddai'n teimlo i ladd rhywun".

Fe ddywedodd hefyd ei fod wedi trywanu buwch ac oen yn y gorffennol.

Daeth y seiciatrydd wnaeth archwilio'r bachgen i'r casgliad nad oedd ganddo "unrhyw empathi neu edifeirwch am yr hyn a wnaeth".

Wythnos ar ôl ei arestio, pan ofynnwyd iddo gan ei weithiwr cymdeithasol sut yr oedd yn teimlo, atebodd: "Dwi'n iawn. Ro'n i'n disgwyl hyn i ddigwydd achos be' wnes i.

"Ti'n meddwl mai cri am help oedd hyn? Doedd o ddim. Ro'n i'n bwriadu gwneud hynny."

Clywodd y llys hefyd fod mam y diffynnydd wedi marw pan oedd yn 10 oed ac mai ef ddaeth o hyd i'w chorff.

'Heb sylwi tan dechrau gwaedu'

Bu'r dioddefwr yn yr achos hefyd yn rhoi tystiolaeth drwy linc fideo ddydd Llun.

Dywedodd ei fod yn cofio rhywun yn gweiddi arno ac yn ei herio i ffeit cyn y digwyddiad ond nad oedd yn cofio'r union eiriau.

Roedd angen dau bwyth ar y clwyf yn dilyn y digwyddiad.

Ni sylweddolodd y disgybl ei fod wedi cael ei drywanu yn syth tan iddo sylwi ei fod yn gwaedu yn yr ystafell ddosbarth.

Er eu bod nhw'n yr un flwyddyn ysgol, doedd y disgybl ddim yn adnabod y diffynnydd, a bu'n rhaid iddo edrych ar lun ysgol er mwyn dangos pwy oedd o.

Mae'r achos yn parhau.