Y Bencampwriaeth: Millwall 2-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tom BradshawFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tom Bradshaw yn sgorio ei ail gôl

Fe wnaeth ymosodwr Cymru Tom Bradshaw sgorio ddwywaith er mwyn sicrhau pwynt i Millwall yn erbyn Caerdydd.

Ond bydd Caerdydd yn gofidio eu bod wedi bod ar y blaen ddwywaith yn y gêm.

Danny Ward sgoriodd y cyntaf gyda'i ben, o groesiad Junior Hoilett

Daeth Bradshaw â'r timau'n gyfartal ychydig cyn yr egwyl, ei ergyd yn curo Neil Etheridge.

Aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen gyda chyd-chwarae da rhwng Ward a Lee Tomlin yn rhoi cyfle i Hoilett ergydio.

Ond yn ôl daeth Millwall a Bradshaw, gyda'r ymosodwr yn ergydio i gornel y rhwyd.

Newyddion drwg arall i'r rheolwr Neil Warnock oedd anaf i Hoilett, wnaeth adael y cae ar ôl 67 munud.