Drakeford a Sturgeon yn croesawu etholiad cyffredinol
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidogion Cymru a'r Alban wedi dweud y byddan nhw'n croesawu etholiad cyffredinol.
Mewn cynhadledd newyddion yn Llundain, fe bwysleisiodd Mark Drakeford a Nicola Sturgeon eu bod nhw'n gwrthwynebu cytundeb Brexit y llywodraeth.
Ond fe wnaethon nhw egluro bod angen manylion am estyniad posib i'r broses cyn gwthio am etholiad cyn y Nadolig.
Dywedodd Mr Drakeford hefyd ei fod o blaid refferendwm, ond y byddai hefyd yn fodlon ar etholiad fel modd o ddatrys y sefyllfa.
Mae'r ddau wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio rhuthro'r cytundeb ymadael trwy'r Senedd heb "graffu manwl" arno.
Maen nhw hefyd wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Boris Johnson a llywydd Cyngor Ewrop yn gofyn am estyniad er mwyn cael cyfle i astudio manylion y Mesur Ymadael.
Dywedodd Mr Drakeford: "Rwyf o hyd wedi bod yn agnostic ynglŷn â'r cwestiwn a'i etholiad cyffredinol neu refferendwm yw'r ffordd orau i roi'r dewis yn ôl yn nwylo'r bobl.
"Ond rwyf o hyd wedi bod yn gwbl glir mai dyna be ddylai fod y nod yn y pen draw.
"Beth rwyf i am ei weld yw'r penderfyniad yn ôl yn nwylo'r bobl wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf."
Ychwanegodd: "Pe bai refferendwm yn dod gyntaf yna mae'n rhaid manteisio arno ar bob cyfrif.
"Pe bai etholiad cyffredinol yn dod gyntaf, yna rwyf yn bendant eisiau hynny."
Nos Fawrth fe gafodd y Mesur Ymadael ei basio gyda mwyafrif o 30 ond yn ddiweddarach cafodd amserlen Boris Johnson - fyddai'n cyfyngu'r cyfnod o drafod i dridiau - ei gwrthod.
Hwn oedd y tro cyntaf i Dŷ'r Cyffredin bleidleisio o blaid unrhyw gytundeb Brexit o ran egwyddor.
Daeth y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio yn gynharach ddydd Mawrth yn erbyn cytundeb Boris Johnson gyda Mr Drakeford yn galw ar ASau i wrthod cymeradwyo'r Mesur.
Fe wnaeth Mr Drakeford drydar ar ôl y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin: "Rwyf yn falch bod Tŷ'r Cyffredin wedi cytuno â ni ei bod hi'n annerbyniol i ddisgwyl aelodau i graffu Bil mor bwysig mewn cyn lleied o amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2019