Pleidiau yn gwrthwynebu cytundeb Brexit yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae ACau wedi datgan eu gwrthwynebiad i gytundeb Brexit Boris Johson, gyda Mark Drakeford yn dweud y byddai'n niweidiol i Gymru.
Pleidleisiodd 37-16 yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth oedd yn cael ei drafod gan aelodau seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Mae Mr Drakeford wedi galw ar yr Undeb Ewropeaidd i ganiatáu estyniad a gadael i'r llywodraethau datganoledig graffu ar y ddeddfwriaeth
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies, fod Mr Drakeford yn "gwrthddweud dymuniadau pobl Cymru".
Johnson am bwyso am etholiad
Dywedodd Llywodraeth y DU ddydd Mawrth y byddai'n rhoi'r gorau i geisio cael cytundeb Brexit Mr Johnson trwy Dŷ'r Cyffredin os yw ASau'n pleidleisio yn erbyn amserlen tri diwrnod i'w gymeradwyo.
Yn ôl Mr Johnson, pe bai'r rhaglen yn cael ei wrthod a'r UE yn caniatáu estyniad, bydd yn pwyso am etholiad cyffredinol.
Yn y Cynulliad ddydd Mawrth bydd ACau'n trafod cynnig gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru sy'n datgan ei fod "yn peidio â chytuno i fil y Cytundeb Ymadael, fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin".
Mae Mr Drakeford wedi datgan y byddai cytundeb Brexit Mr Johnson yn "gwneud Cymru'n dlotach", a'i fod yn waeth na chytundeb Theresa May.
Os ydy'r mesur yn mynd yn ei flaen mae'n debyg y bydd angen i ACau ei gymeradwyo'n ffurfiol, ond mae Llywodraeth y DU yn gallu anwybyddu eu penderfyniad.
Mae Mr Drakeford wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd â Phrif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, yn datgan bod y llywodraethau datganoledig angen mwy o amser i graffu ar y mesur cyn y mae'r DU i fod i adael yr UE ar 31 Hydref.
'Rhwystredig'
Yn ystod y ddadl, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies, ei fod yn "rhwystredig clywed y prif weinidog yn gwrthddweud dymuniadau pobl Cymru".
Ond dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mai'r hyn sy'n digwydd ydy "gwleidyddiaeth yn gweithio drwy ddadleuon chwerw a bygythiadau".
Dywedodd Mandy Jones o Blaid Brexit: "Dyw'r mesur yma yn ddim ond stynt i Lywodraeth Cymru a'i chynorthwywyr."
Mae llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthwynebu Brexit ac eisiau cynnal refferendwm arall ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019