Cofio 'awr dduaf' rygbi Cymru yn erbyn De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Cymru v De Affrica
Disgrifiad o’r llun,

Andre Snyman yn hollti amddiffyn y Cymry yn Pretoria yn 1998

I genedl rygbi sydd wedi profi'i siâr o isafbwyntiau ar hyd y blynyddoedd, heb os, fe ddaeth yr awr dduaf ar faes Loftus Versfeld yn Pretoria 21 mlynedd yn ôl.

Mae'r dyddiad 27 Mehefin 1998 wedi'i serio ar gof unrhyw un oedd yno yn gweld Cymru'n diodde'u colled fwyaf erioed, 96-13 yn erbyn De Affrica.

Fe ildiodd Cymru 15 cais ac un o brofiadau mwyaf amhleserus fy ngyrfa oedd clywed y dorf ddidrugaredd yn udo am un cais arall i groesi'r 100.

Mewn gwirionedd roedd hi'n sefyllfa gwbl amhosib i bawb yn gysylltiedig â charfan Cymru.

'Mae'r rhod yn troi'

Roedd yr hyfforddwr, Kevin Bowring, wedi gadael ei swydd rhyw fis ynghynt, a'r rhan fwyaf o'r prif chwaraewyr ddim ar gael am wahanol resymau.

Roedd gan yr hyfforddwyr dros dro - hyfforddwyr Pontypridd, Dennis John a Lyn Howells - syniad beth i'w ddisgwyl yn erbyn pencampwyr y byd ar eu tomen eu hunain, ond doedd neb wedi rhagweld maint y grasfa.

Cymru v De AffricaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Cymru i adennill eu balchder mewn stadiwm oedd wrthi'n cael ei adeiladu yn 1999

Ond rhyfedd fel mae'r rhod yn troi, a blwyddyn namyn diwrnod yn ddiweddarach roedd De Affrica yng Nghaerdydd a phethau'n dra gwahanol.

Roedd 'na stadiwm newydd (neu o leia' un ar ei hanner!), roedd hyfforddwr newydd yn Graham Henry oedd yn ysbrydoli chwaraewyr hen a newydd ac fe grëwyd hanes gyda Chymru'n cael eu buddugoliaeth gynta' erioed yn erbyn y Springboks.

Buan aeth hi nôl i'r hen drefn - rhwng 2000 a 2014 fe enillodd De Affrica 16 gêm o'r bron yn erbyn Cymru.

Ond yn ystod cyfnod Warren Gatland roedd Cymru o fewn un sgôr bum gwaith, ac roedd 'na deimlad fod pethau ar fin newid.

Cymru v De AffricaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Cymru record dda yn erbyn De Affrica yn ddiweddar

A dyna sydd wedi digwydd - mae Cymru wedi curo De Affrica mewn pump o'r chwe gêm ddiwetha', ac mae hynny'n rhoi gobaith gwirioneddol y tro hwn hefyd.

Un nodyn o rybudd i gloi - yr eithriad yn y rhediad hwnnw oedd rownd wyth ola'r Cwpan Byd diwetha', ac fe gurodd y Springboks Cymru mewn gêm grŵp yn y Cwpan Byd blaenorol hefyd.

Pan mae'r gemau'n wirioneddol cyfri, mae De Affrica'n dîm gwahanol.