Owen Lane yn cymryd lle Josh Navidi yng Ngwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Asgellwr y Gleision, Owen Lane sydd wedi cael ei ddewis i gymryd lle Josh Navidi yng ngharfan Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi fore Llun na fyddai'r chwaraewr rheng-ôl ar gael ar gyfer gweddill y gystadleuaeth wedi iddo anafu llinyn y gar yn y fuddugoliaeth 20-19 yn erbyn Ffrainc.
Roedd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud eisoes mai olwr, yn hytrach na blaenwr, fyddai'n cael ei alw i ymuno â'r garfan yn ei le.
Roedd Lane, sydd hefyd wedi chwarae fel canolwr, yn rhan o'r garfan hyfforddi ar gyfer Cwpan y Byd, ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y garfan derfynol.
Dim ond unwaith mae Lane wedi chwarae dros Gymru, a hynny yn y gêm yn erbyn Iwerddon fis Awst.
Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn De Affrica yn y rownd gynderfynol yn Stadiwm Nissan, Yokohama, am 09:00 ddydd Sul.
Roedd Cymru eisiau cryfhau eu dewisiadau ymhlith yr olwyr, yn enwedig gan i'r canolwr Jonathan Davies fethu gêm ddydd Sul oherwydd anaf i'w ben-glin.
Navidi, 28 oed, yw'r ail aelod o garfan Cymru i ddychwelyd adre, gyda'r clo Cory Hill wedi gadael heb chwarae gêm oherwydd anaf i'w goes.
Daeth Bradley Davies o'r Gweilch i gymryd lle Hill, tra bod Adam Beard, clo arall y Gweilch, wedi cyrraedd yn hwyr oherwydd llawdriniaeth i dynnu ei bendics.
Mae gan Gymru gryfder yn y rheng ôl, gan gynnwys Ross Moriarty, ddaeth i'r cae yn lle Navidi ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2019