Gweithwyr Hufenfa Tomlinsons i gymryd camau cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Hufenfa Tomlinsons

Mae dros 150 o weithwyr o Gymru a gollodd eu swyddi pan aeth Hufenfa Tomlinsons i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach yn y mis yn gobeithio dwyn achos ar y cyd gan honni bod y cwmni wedi methu ag ymgynghori'n briodol gyda staff wrth eu diswyddo.

Cafodd ffermwyr wybod ar 13 Hydref na fyddai Hufenfa Tomlinsons, oedd â phencadlys yn Wrecsam ac yn cyflogi 331 o weithwyr ar dri safle - yn gallu parhau i brosesu eu llaeth.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu i gefnogi tua 200 o weithwyr yr hufenfa yn Wrecsam a gafodd eu hel adra'n syth wrth i'r cwmni gadarnhau eu bod wedi stopio gweithredu.

Dywed y cwmni cyfreithiol Simpson Millar eu bod mewn cysylltiad gyda tua 155 o'r cyn-weithwyr sy'n byw yng Nghymru gyda'r bwriad o sefydlu a wnaeth y busnes gymryd y camau cyfreithiol cywir i ymgynghori â staff wrth eu diswyddo.

Un o'r gweithwyr yw'r cyn-reolwr shifft, Matthew Rutter o Wrecsam, sy'n 31 oed ac yn dad i bump o blant.

"Ges i sioc enfawr pan wnaethon nhw ddweud wrthym ni fod y busnes yn mynd i'r gweinyddwyr," meddai. "Cawson ni e-bost ar fore Sul yn dweud bod yna gyfarfod y diwrnod nesaf am 16:00, lle gawson ni wybod bod y cwmni ddim yn bod mwyach.

"Fe wnaethon nhw ein cadw yn y tywyllwch yn llwyr tan hynny, er ein bod wedi darganfod bod yna ansicrwydd ers mis Ionawr.

"Roedd y diffyg rhybudd yn wirioneddol frawychus... gyda phump o blant a'r Nadolig ar y gorwel, rydw i'n poeni'n fawr am y dyfodol."

Dywedodd Stephen Pinder, un o bartneriaid Simpson Millar sy'n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth, y byddai staff yn gymwys i gael iawndal os yw'r cwmni wedi methu â chyflawni'r ddyletswydd gyfreithiol i gynnal proses ymgynghori priodol.

Pe byddai'r cyn-weithwyr yn dwyn achos ac yn llwyddiannus, meddai, byddai'n bosib iddyn nhw dderbyn "hyd at 90 diwrnod o gyflog cyn treth, er bod uchafswm tebygol o £4,200, o ystyried statws gweinyddol y cwmni".