Ymchwiliad yn parhau wedi marwolaeth dyn mewn tirlithriad

  • Cyhoeddwyd
Corey SharplingFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Corey Sharpling ei fod yn "fachgen ffraeth, dymunol"

Mae cwest wedi clywed bod Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dyn 21 oed mewn tirlithriad yn ystod storm.

Bu farw Corey Sharpling o Gastellnewydd Emlyn yn y digwyddiad ger pentref Cwmduad yn Sir Gâr yn Storm Callum ym mis Hydref 2018.

Dywedodd Joy Jones o'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) bod arbenigwyr peirianneg sifil wedi awgrymu y gallai gwaith oedd yn cael ei gynnal ger y safle fod wedi cyfrannu at y tirlithriad.

Ychwanegodd bod yr arbenigwyr, sy'n gweithio i'r HSE, wedi dweud bod ganddyn nhw "bryderon am y gwaith".

Mae'r HSE wedi pasio eu hadroddiad nhw ymlaen at Heddlu Dyfed Powys.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu ar y pryd fod y tirlithriad wedi bod yn un "enfawr"

Dywedodd Ms Jones bod yr heddlu nawr yn cyfweld tystion ac mai'r llu sy'n arwain yr ymchwiliad.

Cafodd y cwest ei ohirio nes mis Ebrill er mwyn galluogi i'r ymchwiliad heddlu barhau.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn "gweithio gyda'r HSE i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Corey Sharpling".

Ychwanegon nhw nad oes unrhyw un wedi'u harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.