Atal aseswr PPI o'i waith wedi ymweliad 'ymosodol'

  • Cyhoeddwyd
Cheryl MatthewsFfynhonnell y llun, Hook News
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cheryl Matthews bod yr aseswr yn anghwrtais, ac yna yn "ymosodol", a'i bod methu credu beth oedd wedi digwydd

Mae aseswr budd-daliadau dan gytundeb i'r Adran Waith a Phensiynau (DWP) wedi cael ei atal o'i waith ar ôl dweud wrth fenyw anabl bod ei theimladau hunanladdol yn "amherthnasol", difrodi ei chartref a herio'i mab i gwffio.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, ac mae cwmni Capita wedi cadarnhau bod yna ymchwiliad i ymddygiad yr aseswr Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP), oedd yn gweithio ar ran y DWP.

Dywedodd Cheryl Matthews - sydd â nifer o gyflyrau iechyd hirdymor, gan gynnwys un lle gall gofid achosi ymlediad (aneurysm) angheuol - bod Capita wedi talu £600 iddi mewn iawndal, oriau wedi iddi gwyno'n ffurfiol.

Ond mae'n ofni y gall yr aseswr ddychwelyd i'w thŷ ac yn poeni y gallai fod wedi ymweld â chleientiaid bregus eraill "oedd yn rhy ofnus" i gwyno amdano.

Iechyd yn dirywio

Mae Mrs Matthews, 45, â phedwar o blant a swydd gwasanaethau cwsmeriaid llawn amser, ond mae wedi bod yn absennol o'i gwaith am bum mis eleni.

Yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl, mae'n byw gyda fibromyalgia, pwysau ar rannau o'r ymennydd a chyflwr asgwrn cefn sy'n dirywio.

Roedd eisoes yn cael £327 y mis mewn taliadau PIP ond roedd wedi cael cyngor i ailymgeisio wedi i'w hiechyd ddirywio.

Oherwydd ei gorbryder a thrafferthion symud, roedd hi'n teimlo "rhyddhad" pan gynigiodd Capita asesiad yn ei chartref, gan feddwl "eu bod yn wirioneddol ddeall fy anghenion".

A hithau methu symud o'i gwely, cafodd yr asesiad ei gynnal yn ei hystafell wely ar 16 Hydref, ac roedd y broses wedi dechrau'n addawol.

Ffynhonnell y llun, Hook News
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cheryl Matthews yn dweud ei bod yn ofn gadael y cartref mae'n rhannu â'i gŵr, Paul, a'u mab anabl ers y digwyddiad ar 16 Hydref

Ond mae'n dweud i bethau ddechrau fynd o chwith pan fethodd â dewis ond un o'i chyflyrau iechyd fel y cyflwr oedd yn achosi'r pryder mwyaf iddi "gan fod yna gysylltiad rhyngddyn nhw oll".

"Ro'n i'n gweld bod e'n dechrau mynd yn rhwystredig gyda fi, felly yn y diwedd ddywedes i, fibromyalgia," meddai.

Soniodd am ymweliad ysbyty diweddar a cheisio "egluro 'mod i mewn cymaint o boen ychydig wythnosau ynghynt, ro'n i eisiau lladd fy hun.

"Chwerthin gwnaeth yr aseswr, gan ddweud, 'amherthnasol, amherthnasol, amherthnasol'. Dywedodd ei fod yn glynu wrth y cwestiynau a bod dim angen cefndir."

Difrodi giât

Ar ôl clywed rhywfaint o'r sgwrs o'r stafell drws nesaf, daeth mab anabl 22 oed Mrs Matthews i mewn a dweud bydde'n rhaid i'r aseswr adael os oedd e'n parhau ar yr un trywydd.

Yn ôl Mrs Matthews, fe gaeodd yr aseswr ei liniadur yn glep, neidio i'w draed, ac "wrth adael fy ystafell wely fe wthiodd fy mab, ac fe ddisgynnodd yn erbyn ffrâm y drws.

"Aeth fy mab ar ei ôl wrth iddo fynd i lawr y grisiau ac fe drodd rownd a dweud: 'Wyt ti eisiau ffeit, gyfaill? Fedra' i roi ffeit i ti'."

Mae'n honni i'r aseswr gicio giât ar waelod y grisiau a gweddi ar Mr Matthews: 'Fydda i'n ôl i dy gael di, gyfaill'.

Ffynhonnell y llun, Hook News
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr aseswr wedi cicio giât ar waelod y grisiau trwy ddrws, yn ôl Cheryl Matthews

Dywedodd Mrs Matthews bod Capita wedi cadarnhau o fewn oriau bod yr aseswr yn cyfaddef difrodi giât y grisiau ai fod wedi ei atal o'i waith.

Talodd y cwmni £600 o iawndal i'w chyfrif banc, ond mae Mrs Matthews yn dweud ei bod yn ofn gadael ei chartref.

"Dydw i ddim yn gallu cysgu ac yn bryderus o hyd. Mae'r dyn yma'r gwybod ein cyfeiriad. Beth os ddaw e'n ôl?

"Dychmygais i fyth y bydde rhywun yn y fath swydd wedi bod mor ymosodol."

Dywedodd Capita: "Rydym wedi ymddiheuro i Ms Matthews a chynnig iawndal wedi'r digwyddiad yma. Mae'r aseswr wedi ei atal o'r gwaith tra ymchwiliad yn mynd rhagddo."

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i honiad o achosi difrod i eiddo yn ardal Pentywyn ar 16 Hydref.