Gefeillio cestyll i atgyfnerthu cyfeillgarwch
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith y bydd seremoni gefeillio dau gastell yng Nghymru a Japan yn datblygu'r berthynas glos rhwng y ddwy wlad, sydd wedi bod mor amlwg yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Cafodd seremoni i efeillio cestyll Conwy a Himeji, sy'n Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, ei gynnal yn Japan ddydd Llun.
Ar ôl gweld y croeso a'r diddordeb yng Nghymru ymhlith pobl Japan dros yr wythnosau diwethaf, mae'n cael ei weld fel ffordd o atgyfnerthu'r cyfeillgarwch.
Y nod hefyd yw gwella cyfleoedd ym maes busnes, twristiaeth a diwylliant rhwng y ddwy wlad.
Roedd dirprwyaeth o Gonwy yn bresennol yn y seremoni yn Himeji, cyn i furiau Castell Conwy gael eu goleuo gyda thafluniad o'r geiriau 'Conwy + Himeji' nos Lun.
Meithrin perthynas
Y bwriad yw hyrwyddo twristiaeth ar y ddau safle a gwybodaeth am y cestyll a'r cymunedau o'u hamgylch. Bydd arbenigedd hefyd yn cael ei rhannu drwy gynnal gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon ar y cyd.
Mae'n adeiladu ar waith Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant i feithrin perthynas gref â Chymdeithas Asiantaethau Teithio Japan (JATA) er mwyn cyflwyno Cymru fel cyrchfan i dwristiaid yn y farchnad yn Japan.
Hefyd, mae Cadw wedi paratoi fersiwn arbennig o'r llyfr gwybodaeth ynglŷn â Chastell Conwy mewn Japaneg.
Bedair blynedd yn ôl, nid oedd aelodau JATA yn cynnig unrhyw wyliau pecyn i Gymru.
Ond mae mwy na 4,000 o dwristiaid o Japan wedi ymweld â'r wlad ers hynny gan ganolbwyntio ar y gogledd.
Ffeithiau am y ddau gastell:
Dechreuwyd adeiladu'r ddau gastell o fewn 50 mlynedd i'w gilydd - Conwy yn 1283 a Himeji yn 1333
Mae gan Gonwy wyth tŵr enfawr ac mae'n enghraifft berffaith o amddiffynfa o fewn amddiffynfa
Castell pum-llawr wedi ei adeiladu o goed yw Himeji
Defnyddiwyd Himeji fel un o'r lleoliadau yn y ffilm James Bond, You Only Live Twice
Mae Castell Himeji yn denu bron i 3 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, a Chonwy tua 220,000
Dywedodd Jim Jones, cyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru mai ond megis dechrau y mae'r berthynas rhwng Conwy a Himeji.
"Rydyn ni'n gobeithio bydd y sylw a gaiff y gefeillio â Himeji yn denu llawer o ymwelwyr o Japan i Gonwy, i'r Gogledd ac i Gymru, ac y bydd hefyd yn ysbrydoli pobl o Gymru i ymweld â'n cyfeillion yn Japan.
"Mae busnesau a thrigolion Conwy wedi mynd y filltir ychwanegol dros ein hymwelwyr o Japan, drwy gael gwersi Japaneg, drwy greu fideo i'w croesawu, a dysgu am ddiwylliant Japan, er mwyn i ymwelwyr gael croeso eithriadol o gynnes yn y dref.
"Rydyn ni'n llawn cyffro am y berthynas hon, a fydd yn ffynnu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod."
Dywedodd Eluned Haf, pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru fod y cynllun yn gyfle i rannu diwylliannau drwy'n hartistiaid a'n cymunedau.
"Mae'r perfformiad yn y seremoni efeillio gan y delynores Frenhinol newydd, Alis Huws, yn gychwyn ar gyfleoedd newydd i drefnu teithiau cyfnewid ym maes y celfyddydau a diwylliant rhwng Cymru a Japan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2011