Gefeillio Castell Conwy â Chastell Himeji yn Siapan
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 6,000 o filltiroedd yn gwahanu Castell Conwy a Chastell Himeji, yn ne Siapan ond fis nesaf bydd cytundeb hanesyddol yn uno'r ddau gastell.
Bydd y ddau gastell, sydd yn Safleoedd Treftadaeth y Byd, yn cael eu gefeillio gyda'r gred mai hwn yw uniad cyntaf o'i fath yn y DU.
Mae'r fenter yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Mae Twristiaeth Gogledd Cymru wedi creu cysylltiadau agos gyda diwydiant twristiaeth Siapan ers tro ac o ganlyniad mae ymwelwyr o Siapan wedi bod yn dod i'r gogledd ar eu gwyliau.
Mae disgwyl i faer Himeju, Toshikatsu Iwami deithio i Gonwy ar Orffennaf 6 er mwyn arwyddo cytundeb mewn seremoni arbennig yn y dre ac y mae'r dre eisoes yn arddangos baneri Siapan.
'Cyfle gwych'
Dywedodd Jim James, rheolwr gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru: "Dwi wedi bod yng Nghastell Himeji ac mae e wir yn odidog.
"Mae'r gefeillio y cyntaf o'i fath yng Nghymru a siŵr o fod y cyntaf yn y DU.
"Bydd maer Himeji a'i ddirprwyaeth yn treulio pedwar diwrnod yma ac yn ogystal ag ymweld â'r castell bydd e hefyd yn cael mynd i orymdaith cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2019 (Llanrwst) ac yn mynd i ysgol leol.
"Byddwn hefyd yn sefydlu cysylltiadau addysgol a diwylliannol, mae'n gyfle gwych," ychwanegodd Jim Jones.
Castell Edward 1 yw Castell Conwy ac fe ddechreuodd y gwaith o'i godi yn 1283 a hanner can mlynedd wedyn dechreuodd y gwaith o adeiladu caer Himeji yn Siapan.
Mae Castell Himeji wedi cael ei wneud o bren ac yn 1967 bu'n gefndir i olygfa ffilm James Bond - You Only Live Twice.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2017