Cymru'n gwneud naw newid i herio Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Owen LaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Owen Lane gais ar ei unig ymddangosiad i Gymru yn erbyn Iwerddon

Mae Cymru wedi gwneud naw newid i'r tîm gafodd eu trechu gan Dde Affrica ar gyfer gêm trydydd safle Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Seland Newydd ddydd Gwener.

Bydd yr asgellwr Owen Lane yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Japan ar ôl cael ei alw i'r garfan yn hwyr i gymryd lle Josh Navidi.

Dywedodd y tîm hyfforddi bod pedwar o'r rheiny oedd yn dechrau yn y rownd gynderfynol - Tomas Francis, George North, Aaron Wainwright a Leigh Halfpenny - oll wedi'u hanafu.

Y gêm yn Tokyo fydd un olaf Warren Gatland wrth y llyw wedi cyfnod o 12 mlynedd fel prif hyfforddwr Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd James Davies yn cael cyfle i greu argraff yn erbyn y Crysau Duon

Hallam Amos sy'n cymryd lle Halfpenny fel cefnwr, gyda Jonathan Davies ac Owen Watkin yn ganolwyr.

Rhys Patchell fydd yn safle'r maswr a Tomos Williams yn fewnwr, gyda Dan Biggar a Gareth Davies ar y fainc.

Dillon Lewis sy'n dechrau yn lle Francis fel prop tra mai Adam Beard sy'n cymryd lle Jake Ball yn yr ail reng.

Bydd James Davies yn dechrau fel blaenasgellwr yn lle Wainwright, gyda Justin Tipuric a Ross Moriarty yn ymuno ag ef yn y rheng ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hon fydd gêm olaf Warren Gatland wrth y llyw wedi cyfnod o 12 mlynedd fel prif hyfforddwr Cymru

Yn y cyfamser mae Seland Newydd wedi gwneud saith newid i'r tîm gafodd eu trechu gan Loegr yn y rownd gynderfynol.

Hon fydd gêm olaf eu prif hyfforddwr nhw - Steve Hansen - hefyd, yn ogystal â'u capten Kieran Read.

Tîm Cymru

Hallam Amos; Owen Lane, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams; Rhys Patchell, Tomos Williams; Nicky Smith, Ken Owens, Dillon Lewis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Justin Tipuric, James Davies, Ross Moriarty.

Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Wyn Jones, Jake Ball, Aaron Shingler, Gareth Davies, Dan Biggar, Hadleigh Parkes.

Tîm Seland Newydd

Beauden Barrett; Ben Smith, Ryan Crotty, Sonny Bill Williams, Rieko Ioane; Richie Mo'unga, Aaron Smith; Joe Moody, Dane Coles, Nepo Laulala, Brodie Retallick, Scott Barrett, Shannon Frizell, Sam Cane, Kieran Read (c).

Eilyddion: Liam Coltman, Atu Moli, Angus Ta'avao, Patrick Tuipulotu, Matt Todd, Brad Weber, Anton Lienert-Brown, Jordie Barrett.