Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd yn Japan

  • Cyhoeddwyd
De Affrica v CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

De Affrica oedd yn dathlu ar ddiwedd y gêm

Mae taith Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan ar ben ar ôl colli yn y rownd gynderfynol o 19-16 yn erbyn De Affrica.

Mewn hanner cyntaf yn llawn cicio, roedd hi'n frwydr gorfforol gyda'r rhan fwyaf o'r gêm yn cael ei chwarae yng nghanol y cae.

Roedd De Affrica'n gryf iawn yn y sgrym ac roedd eu pwysau yn gorfodi Cymru i gicio'r bêl i geisio gwthio'r Springbok ymhellach o'r llinell gais.

Ar y cyfan, roedd hynny'n llwyddiannus gyda Leigh Halfpenny yn serennu yn yr awyr wrth ddal y bêl, ond prin iawn oedd unrhyw gyfle gwirioneddol i sgorio cais.

Anaf i North

Daeth pwyntiau cyntaf y gêm wedi chwarter awr, Handre Pollard yn rhoi'r Springboks ar y blaen gyda chic gosb hawdd o flaen y pyst.

Roedd Cymru'n ôl yn y gêm wrth i Dan Biggar gicio'n gywir o'r asgell chwith wedi 17 munud yn dilyn camsefyll gan Dde Affrica.

Roedd y fantais yn ôl gan y Sprinbok wedi 20 munud, Pollard unwaith eto'n cicio'n llwyddiannus yn dilyn sgrym nerthol.

Ym munud olaf yr hanner cyntaf fe giciodd Biggar yn hawdd dros y pyst ond fe gafodd George North ei orfodi oddi ar y cae gydag anaf i'w goes.

Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda De Affrica ar y blaen 9-6.

Disgrifiad,

Jonathan Davies yn siarad wedi'r golled yn erbyn De Affrica

Fe ddechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i'r hanner cyntaf, y ddau dîm yn parhau i gicio.

15 munud fewn i'r ail hanner fe lwyddodd De Affrica i ddarganfod bwlch yn amddiffyn Cymru gyda Damian de Allende yn tirio ac unwaith eto Pollard yn trosi.

Fe wnaeth Cymru ymateb yn syth, gan bwyso ar amddiffyn De Affrica a gorfodi iddyn nhw droseddu pum metr o'r llinell gais, ac fe benderfynodd Cymru alw am sgrym.

Daeth y bêl yn rhydd o'r sgrym ac yno ar yr asgell oedd Josh Adams i groesi. Gyda'i drosiad cyntaf o'r gêm roedd cic Halfpenny'n gywir i unioni'r sgôr 16-16 gyda 15 munud yn weddill.

Y gic dyngedfennol

Llwyddodd Cymru i gael y bêl yn ôl yn sydyn a rheoli'r meddiant.

Gydag wyth munud yn weddill fe geisiodd Rhys Patchell gyda chic adlam ond doedd ei ymdrech ddim digon nerthol i gyrraedd y pyst.

Ar ôl ildio'r meddiant, roedd De Affrica nawr yn hanner Cymru.

Gyda phum munud yn weddill fe ychwanegodd Pollard at bwyntiau De Affrica gyda chic gosb lwyddiannus arall i roi un droed y Sprinbok yn y rownd derfynol.

Ni lwyddodd Cymru i gipio'r bêl yn ôl wedi hynny a daeth eu hymgais i gyrraedd y rownd derfynol i ben.

De Affrica fydd yn camu ymlaen i wynebu Lloegr yn y rownd derfynol ac fe fydd gan Gymru un gêm yn weddill yn erbyn Seland Newydd am y trydydd safle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Josh Adams sgoriodd unig gais Cymru o'r gêm