Y Gynghrair Genedlaethol: Torquay 1-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae tymor anodd Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol yn parhau ar ôl cael eu curo oddi cartref yn Torquay.
Roedd hynny er i'r Dreigiau gael y gorau o'r hanner cyntaf ac roedd angen arbediad arbennig i atal Paul Rutherford rhag sgorio.
Ond doedd dim atal ergyd Liam Davis wedi 56 o funudau ac unig gôl y gêm i sicrhau'r triphwynt i'r tîm cartref.
Mae tîm Dean Keates yn aros yn 22ain yn y tabl gyda 16 o bwyntiau, ac un fuddugoliaeth yn unig allan o'u 15 diwethaf yn y gynghrair.