David Jones wedi newid ei feddwl am ymgeisio eto fel AS

  • Cyhoeddwyd
David JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Jones fod y penderfyniad i alw etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr wedi gwneud iddo newid ei feddwl.

Mae Aelod Seneddol o ogledd Cymru wedi newid ei feddwl ynglŷn â chamu lawr cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Roedd AS Gorllewin Clwyd, David Jones wedi datgan ym mis Medi nad oedd am ymgeisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ond dywedodd fod y penderfyniad i alw etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr wedi gwneud iddo newid ei feddwl.

"Y sefyllfa yw bod nifer o aelodau o fewn fy nghymdeithas wedi gofyn i mi sefyll," meddai cyn-ysgrifennydd Cymru a gafodd ei ethol fel AS yn 2005.

"Mae sawl aelod o fy etholaeth hefyd wedi gwneud yr un peth.

"Rwy'n awyddus iawn i sicrhau fy mod yn Nhŷ'r Cyffredin pan fydd Brexit yn digwydd.

"Rwyf wedi treulio'r pedair blynedd diwethaf yn gobeithio y byddai wedi cael ei ddatrys cyn i mi adael."

Bu'r Ceidwadwr hefyd yn Weinidog Brexit i Lywodraeth y DU am gyfnod.