Rheolwr Cymru, Rowland Phillips yn 'cymryd amser i ffwrdd'

  • Cyhoeddwyd
Rowland PhillipsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rowland Phillips wedi bod yn hyfforddwr ar dîm merched Cymru ers 2016

Bydd tîm rygbi merched Cymru heb eu prif hyfforddwr Rowland Phillips ar gyfer eu gemau yn erbyn Sbaen ac Iwerddon fis nesaf.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod Phillips yn "cymryd ychydig o amser i ffwrdd".

Yr hyfforddwyr Gareth Wyatt, Chris Horsman a Geraint Lewis fydd yn rheoli'r tîm yn ei absenoldeb, gyda'r tîm yn chwarae pum gêm o fewn mis.

Mae Cymru wedi cyhoeddi'r tîm fydd yn herio Sbaen ym Madrid ddydd Sul, gyda merch Rowland Phillips, Carys i ennill ei 50fed cap.

Bydd yr asgellwyr Caitlin Lewis ac Angharad De Smet, y canolwr Megan Webb a'r blaenwyr Gwenllian Jenkins, Georgia Evans ac Abbie Fleming oll yn ennill eu capiau cyntaf.

Grey line

Tîm merched Cymru i herio Sbaen

Lauren Smyth; Angharad De Smet, Megan Webb, Kerin Lake, Caitlin Lewis; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Gwenllian Jenkins, Carys Phillips (c), Amy Evans, Georgia Evans, Gwen Crabb, Abbie Fleming, Sioned Harries.

Eilyddion: Kelsey Jones, Gwenllian Pyrs, Cerys Hale, Siwan Lillicrap, Robyn Lock, Niamh Terry, Elinor Snowsill, Alecs Donovan.

Grey line

Gemau'r hydref

  • Sbaen v Cymru - Madrid, 3 Tachwedd

  • Iwerddon v Cymru - Dulyn, 10 Tachwedd

  • Yr Alban v Cymru - Glasgow, 17 Tachwedd

  • Crawshay's v Cymru - Glyn Ebwy, 23 Tachwedd

  • Cymru v Barbariaid - Caerdydd, 30 Tachwedd