Cyngor Caerffili i ddarparu cynnyrch mislif cynaliadwy?
- Cyhoeddwyd

Fe all Cyngor Caerffili fod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddarparu cynnyrch mislif cynaliadwy.
Mae'r awdurdod yn ystyried darparu cynnyrch mislif sy'n dda i'r amgylchedd ac sy'n gallu cael eu hail-ddefnyddio.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r cyngor sir wedi darparu cynnyrch mislif i bob ysgol yn yr ardal ar ôl derbyn grant 'urddas yn ystod mislif' gwerth £13,206 gan Lywodraeth Cymru.
Bydd newid i'r ffordd mae'r arian yn cael ei wario yn cael ei ystyried ddydd Mawrth yn ystod cyfarfod y pwyllgor addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Philipa Marsden bod y cyngor yn dymuno ymddwyn mewn ffordd sy'n "gyfrifol i'r gymdeithas".
Byddai'r penderfyniad i wario'r arian ar gynnyrch sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd yn cyd-fynd gyda gweledigaeth y cyngor, meddai.
Bwriad y fenter urddas yn ystod mislif yw sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael i bob merch yng Nghymru.
Darparu cynnyrch i bob ysgol
Yn ôl adroddiad diweddaraf y cyngor, cafodd holl arian grant urddas yn ystod mislif 2018-19 Caerffili ei wario ar gynnyrch mislif.
Cafodd bocsys o gynnyrch mislif eu darparu ar ddechrau mis Mai i ysgolion, canolfannau ieuenctid, canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.

Mae tamponau fel arfer yn cael eu gwerthu mewn pecynnau plastig
Ym mis Ebrill cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grant o £2.3m i ysgolion ar draws Cymru er mwyn darparu cynnyrch mislif am ddim i bob ysgol.
Cyn belled, mae 141,000 o ferched sy'n mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd wedi buddio o'r cynllun, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018