Y Bencampwriaeth: Caerdydd 4-2 Birmingham
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth o bedair gôl i ddwy i Gaerdydd adref yn erbyn Birmingham ddydd Sadwrn.
Cafwyd y dechreuad gwaethaf posibl i'r brifddinas - ar ôl tair munud, roedd Kristian Pedersen wedi plannu'r bêl yn rhwyd Caerdydd gydag ergyd troed chwith.
Bu rhaid i'r tîm cartref wedyn ymdrechu'n galed i sefydlu eu hunain yn y gêm.
Roedd Birmingham yn ymosod yn gyson ond yn araf bach roedd yr Adar Gleision yn ennill tir.
Fe ddaeth eu gwobr gyda chic o'r smotyn wedi hanner awr ar ôl i Harlee Dean droseddu wrth dynnu Aden Flint i'r llawr, ac fe sgoriodd Joe Ralls.
Roedd chwarae Caerdydd yn llawer iawn mwy ymosodol wedi hynny ac ymhen wyth munud roedd Curtis Nelson wedi sgorio yn dilyn cic gornel - Nelson yn sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb yn ystod ei gêm lawn gyntaf.
Roedd Caerdydd ar y blaen ar hanner amser.
Dechreuodd Caerdydd yr ail hanner yn hyderus ac fe gafodd Nelson y bêl i'r rhwyd ond roedd na drosedd ac felly nid oedd y gôl yn cyfri.
Yna chwe munud i mewn i'r ail hanner dyma Danny Ward yn taclo'n wyllt a'r dyfarnwr yn estyn y garden goch ac roedd Caerdydd i lawr i ddeg dyn.
Taro nôl
Ond roedd ymdrechion y deg dyn yn parhau ac wedi rhediad da gan Mendez-Laing llwyddodd i gael y bêl at Ralls yng nghanol blwch cosbi Birmingham a chyda'i droed chwith gosododd hwnnw y bêl yn y gôl i roi Caerdydd dair gôl i un ar y blaen.
Cafodd un o ffefrynnau torf Caerdydd Sol Bamba groeso cynnes iawn pan ddaeth i'r cae fel eilydd - bu'n absennol oherwydd anaf ers cyfnod.
Nid oedd Birmingham wedi rhoi gorau i chwarae a chydag ergyd troed dde o du allan i'r blwch cosb a chamgymeriad annisgwyl gan Etheridge yn y gôl fe sgoriodd Ivan Sunjic i'r ymwelwyr.
Aeth pethau yn flêr pan ddechreuodd nifer ymladd ar y cae wedi i Dean, capten Birmingham, roi penelin yn wyneb Ralls - fe gafodd garden goch ac roedd Birmingham i lawr i ddeg dyn.
Yn union wedi hynny cafodd Caerdydd gic arall o'r smotyn wedi i Marc Roberts droseddu ac fe sgoriodd Ralls ei drydedd gôl gan roi buddugoliaeth sicr i'r Adar Gleision.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2019