Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Bromley

  • Cyhoeddwyd
Luke YoungFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Cic o bellter gan Luke Young yn sicrhau buddugoliaeth i'r Dreigiau

Roedd yna fuddugoliaeth i'r Dreigiau yn y gynghrair genedlaethol brynhawn Sadwrn wrth iddynt drechu Bromley o un gôl i ddim.

Roedd Wrecsam yn dechrau'r gêm hon yn yn y pedwar isaf a Bromley ar frig y tabl.

Bromley oedd â'r llaw uchaf ar y dechrau ond yn araf bach daeth Wrecsam i chwarae yn well a doedd dim sgôr yn ystod yr hanner cyntaf.

Dechreuodd Wrecsam yr ail hanner yn gryf a chael ambell ymgais dda ar y gôl ond roedd Huddart, gôl-geidwad Bromley, yn rhwystro yn gyson.

Yna gydag ergyd rymus o bellter gan Luke Young fe gurwyd Huddart ac roedd Wrecsam ar y blaen efo deuddeg munud ar ôl o'r gêm.

Mae'r fuddugoliaeth hon yn erbyn y tîm oedd ar y brig yn un eithriadol o bwysig i hyder y Dreigiau.