Cofio'r Esgob Daniel Mullins - cyn-Esgob Catholig Mynyw
- Cyhoeddwyd
Yn 90 oed bu farw yr Esgob Daniel Mullins - cyn-Esgob Catholig Mynyw.
Roedd yn gyfrannwr cyson i raglenni Cymraeg wedi i Saunders Lewis ei annog i ddysgu'r iaith ac ef hefyd oedd cyffeswr y gwleidydd a'r dramodydd.
Cafodd ei eni yn Kilfinane yn Sir Limerick yn Iwerddon ac wedi'i addysgu yn Mount Mellery, Waterford daeth i Goleg Mair yn Aberystwyth ac yna Prifysgol Caerdydd.
Cafodd ei benodi yn esgob cynorthwyol i esgobaeth Caerdydd yn 1970 ac yn Esgob Mynyw yn 1987.
'Dotio ar ramadeg'
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Sue Roberts - cyn-ysgrifennydd y Cylch Catholig ei fod yn berson hynod o annwyl a mai ef a wnaeth annog cyfieithu y Missal i'r Gymraeg.
Dywedodd: "Ry'n yn parhau i ddefnyddio cyfieithiad Pat Donovan a'r Tad John Fitzgerald - roeddwn yn meddwl am hyn yn yr offeren neithiwr.
"Fe ddysgodd Gymraeg yn gwbl berffaith wrth droed Saunders Lewis - roedd y ddau ohonynt yn rhannu yr un gweledigaeth a fe oedd cyffeswr Saunders.
"Ro'dd o'n sticlar am iaith - ro'dd o'n berffeithydd ac roedd o'n dotio ar ramadeg.
"Yn wir roedd popeth ro'dd e'n ein wneud o'r safon uchaf - ro'dd o mor drylwyr."
'Dyn annwyl'
Ychwanegodd Ms Roberts bod ei ffydd yn hynod o bwysig i'r Esgob Mullins - cyn i esgobaeth Wrecsam ddod i fodolaeth roedd yr Esgob Mullins yn gyfrifol am wasanaethu rhan helaeth o Gymru.
"Fe i ddweud y gwir," meddai, "wnaeth gyflwyno Catholigiaeth i gynulleidfa ehangach ac yn sicr i'r gynulleidfa Gymraeg - roedd e'n barod iawn i gael ei holi gan y cyfryngau Cymraeg.
"Mi fyddai o wastad yn gallu dal ei dir - roedd o'n gallu cyfleu ei neges mewn ffordd ddealladwy.
"Fo wnaeth briodi fi a ngŵr - ac aeth y gwasnaeth ymlaen am ddwy awr!
"Roedd e'n ddyn mor annwyl - mae'n golled enfawr."
Fe ymddeolodd yr Esgob Mullins yn 2001 a bu farw ddydd Iau wedi gwaeledd.