Ystyried cau ysgol gynradd yn Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Ysgol LlanaelhaearnFfynhonnell y llun, Google

Bydd cynghorwyr Gwynedd yn pleidleisio a fyddan nhw'n cau ysgol gynradd yn Llŷn mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

Er fod lle i 53 o ddisgyblion yn Ysgol Llanaelhaearn, dim ond wyth plentyn sy'n cael eu haddysg yno ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i'r ffigwr yna ostwng i bump erbyn 2021.

Oherwydd hynny bydd aelodau o gabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cychwyn y broses ymgynghori i gau'r ysgol, a symud y disgyblion 3.6 milltir i ffwrdd i Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr o fis Medi 2020.

Daw'r penderfyniad wedi cwymp dramatig yn nifer y disgyblion yn yr ysgol - roedd 42 yno yn 2012.

Yn ôl adroddiad i'r cyngor mae hyn yn gadael yr ysgol mewn "sefyllfa fregus" ac o dan "bwysau cyllidol cynyddol" gyda'r gost i bob disgybl ar gyfer 2019/20 yn £12,671 o gymharu â'r gost ar gyfartaledd i ddisgyblion y sir o £3,884.

Mae Ysgol Llanaelhaearn ar hyn o bryd yn rhannu pennaeth gydag Ysgol Garndolbenmaen ac Ysgol Chwilog, ac mae un athro llawn amser ac un cynorthwyydd dosbarth llawn amser yn Llanaelhaearn.

'Diwrnod trist'

Os fydd yr ysgol yn cau fe fydd y disgyblion yn derbyn cludiant am ddim i'r Ffôr.

Wrth ymateb i'r adroddiad gwreiddiol i'r cyngor dywedodd y cynghorydd lleol Aled Wyn Jones y byddai'n "ddiwrnod trist" os fydd yr ysgol yn cau, ond bod nifer y disgyblion ar lefel "pryderus".

Ychwanegodd: "Un o'r pethau arweiniodd at gwymp o 60% yn nifer y plant dros y tair blynedd diwethaf yw'r sylwadau gafodd ei gwneud mewn cyfarfod yng Ngorffennaf 2016 gan swyddogion o'r adran addysg am ddyfodol yr ysgol ar y pryd.

"Wedi'r sylwadau yna fe wnaeth nifer o rieni symud eu plant o'r ysgol.

"Rwy'n credu y byddai [cau'r ysgol] yn cael effaith tymor hir ar ymdrechion i adfywio a datblygu'r gymuned, denu teuluoedd newydd gyda phlant i fyw yn y pentref... mae cynllun sy'n ceisio datblygu 15 o dai cymdeithasol newydd yno.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad statudol yn deg a thrylwyr, ac rwy'n gobeithio bod modd achub yr ysgol fechan yn Llanaelhaearn."

Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, aelod y cabinet gyda chyfrifoldeb am addysg: "Ein dyletswydd yw sicrhau'r addysg a phrofiadau gorau i holl blant Gwynedd.

"Ar ôl ystyried yr holl opsiynau, ac ystyried y bydd nifer y plant yn yr ysgol i lawr i bump erbyn 2021, rydym o'r farn nad yw sefyllfa Ysgol Llanaelhaearn yn hyfyw i'r dyfodol."

Yn ôl pennaeth cyllid yr awdurdod, byddai cau'r ysgol yn arbed £75,518.