Ymchwilio i droseddau rhyw honedig yng Nghricieth

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Deuluol CricciethFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyn lleol 43 oed, sy'n gyn-aelod o'r eglwys wedi cael ei arestio fel rhan o'r ymholiad a'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi lansio ymchwiliad troseddol mewn perthynas â throseddau rhyw honedig sy'n ymwneud ag Eglwys Deuluol Cricieth.

Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â throseddau rhyw honedig diweddar a rhai hanesyddol.

Mae dyn lleol 43 oed, sy'n gyn-aelod o'r eglwys wedi cael ei arestio fel rhan o'r ymholiad a'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Evans: "Mae'r ymholiad yn sensitif ac yn gymhleth a bydd yn cymryd wythnosau i'w gwblhau.

"Mae gennym dîm o swyddogion arbenigol sy'n ymroddedig i'r ymholiad sy'n gweithio gyda'r tîm diogelu o'r eglwys a'n partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol.

"Hoffwn dawelu meddwl ein cymunedau lleol nad oes unrhyw risgiau parhaus y dylech chi boeni amdanynt.

"Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eu heffeithio mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni drwy'r dulliau canlynol: Ebostiwch 'OperationBlueQuartz@nthwales.pnn.police.uk' neu ffoniwch 101 a dyfynnu 'Ymgyrch Blue Quartz'."