Oedi cyn derbyn tâl Lwfans Mamolaeth yn 'sgandal'

  • Cyhoeddwyd
Lowri Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lowri Jones fod yr oedi i'w lwfans yn "sgandal"

Mae mam feichiog o Wrecsam yn poeni na fydd hi'n derbyn ei Lwfans Mamolaeth mewn pryd yn sgil oedi yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gydag ychydig wythnosau i fynd nes geni ei babi, mae Lowri Jones wedi cael gwybod eu bod nhw'n anelu i brosesu ei chais rhyw bryd yn y flwyddyn newydd.

Mae hi'n un o filoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan yr oedi o fewn y system hawlio Lwfans Mamolaeth.

Yn ôl elusen Chwarae Teg mae'r sefyllfa'n "hollol annerbyniol".

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymddiheuro am yr oedi.

Beth ydy'r Lwfans Mamolaeth?

Lwfans Mamolaeth yw tâl gan Lywodraeth y DU i fenywod sydd ddim yn gymwys i dderbyn tâl mamolaeth gan gyflogwr, sy'n hunangyflogedig neu sydd wedi gorffen gweithio yn ddiweddar.

Mae modd hawlio Lwfans Mamolaeth ar ôl bod yn feichiog am 26 wythnos, ac fe all taliadau ddechrau 11 wythnos cyn genedigaeth babi.

Mae faint gallwch chi ei hawlio'n dibynnu ar eich cymhwysedd.

Mae'n rhaid i chi hefyd fod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos yn ystod y 66 wythnos cyn geni eich babi, ac wedi ennill o leiaf £30 yr wythnos mewn 13 wythnos.

'Mae hyn yn sgandal'

Mae Ms Jones yn gyfieithydd hunangyflogedig ac felly'n gymwys i hawlio Lwfans Mamolaeth wythnosol.

Hawliodd y taliad heb ddim trafferth 'nôl yn 2017 pan oedd yn feichiog gyda'i phlentyn cyntaf.

Ond tro hyn, mae hi wedi cael gwybod ei bod hi'n annhebygol y bydd hi'n derbyn y taliad mewn pryd.

Cafodd wybod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod nhw'n gobeithio cyrraedd ei chais ym mis Ionawr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lowri Jones na chafodd drafferth hawlio'r lwfans pan roedd yn feichiog gyda'i phlentyn cyntaf

"Bydd fy mhlentyn yn fis i chwe wythnos oed erbyn hynny," meddai.

"Dwi'n siomedig efo'r ffordd mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi delio efo hyn, yn bennaf oherwydd y diffyg cyfathrebu.

"A dwi'n teimlo fod hynny yn wir am bob dynes sy'n cysylltu efo nhw ynglŷn â hyn - a dydy hynny ddim digon da.

"Dwi'n meddwl mod i mewn sefyllfa fwy ffodus na rhai... mi ydan ni'n gallu edrych am plan B.

"Dwi'n teimlo bod hyn yn sgandal, ac mae'n gywilyddus fod o'n digwydd yn 2019."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Helen Antoniazzi o elusen Chwarae Teg fod y sefyllfa'n "annerbyniol"

Dywedodd Helen Antoniazzi o elusen Chwarae Teg: "Be' sy'n bwysig cofio ydy bod y menywod yma wedi gwneud eu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol ac mae ganddyn nhw bob hawl i ddisgwyl cael yr arian yma 'nôl pan maen nhw angen yr arian.

"Be' yda ni eisiau gweld ydy bod y llywodraeth yn symleiddio'r system hawlio a hefyd yn staffio'r adrannau yn ddigonol."

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud bod yn "ddrwg gennym am yr oedi y mae rhai yn ei ddioddef ar hyn o bryd".

Dywedodd llefarydd: "Rydym eisoes wedi rhoi mwy o staff ar waith i gyflymu'r broses ac rydym yn olrhain achosion brys yn gyflym.

"Gallwch wneud cais 14 wythnos cyn yr wythnos y caiff eich babi ei eni, felly rydym yn annog pobl i wneud cais cyn gynted ag y byddant yn gymwys.

"Bydd pob taliad yn cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad pan ddaw rhywun yn gymwys."