Y casgliad hynod sy'n dweud cyfrolau am y Cymry
- Cyhoeddwyd
Ddydd Iau, 7 Tachwedd mae'n 200 mlynedd ers geni y casglwr, y cyfreithiwr a'r Aelod Seneddol o Fagillt, Sir Fflint, sef Enoch Salisbury. Yn ystod ei oes, fe gasglodd rhwng 18,000 a 20,000 o lyfrau am yr iaith Gymraeg, diwylliant, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth Cymru a llawer mwy.
Mae'r casgliad yn cael ei gartrefu yn adran Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, ac mae'n 'drysor' yn ôl Sara Huws sy'n trefnu dathliad yn y brifysgol nos Iau i nodi'r dyddiad ac i groesawu'r cyhoedd i weld y cyfrolau.
Yma, mae hi'n sôn am bwysigrwydd y casgliad i Gymru ac yn crynhoi rhai o'r uchafbwyntiau:
Ymgais gynta' i greu Llyfrgell Genedlaethol
Mae o'n arwr coll, o ran casglu hanes Cymru. Roedd ymhell o flaen ei amser. Mae wedi cael enw o fod yn lyfrbryf braidd yn ecsentrig, ond wir roedd o yn casglu bob dim am Gymru cyn bod y sefydliadau cenedlaethol sydd ganddon ni rŵan yn bodoli.
Felly mae ei gasgliad o yn ymgais gynta' i greu Llyfrgell Genedlaethol. Wnaeth o ddim aros yn Aelod Seneddol am yn hir iawn, mi aeth o'n fethdalwr, ond mi roedd yn graff iawn fel casglwr. Nid yn unig yn casglu'r pethau traddodiadol Cymreig, ond roedd yn casglu pethau roedd pobl yn ei sgwennu am Gymru a thu hwnt.
Gwirioni efo Robinson Crusoe
Fe ddechreuodd Enoch Salisbury gasglu llyfrau ar ôl cael copi Cymraeg o Robinson Crusoe yn anrheg pen-blwydd yn blentyn. Roedd wedi gwirioni efo'r gyfrol a phenderfynodd ddechrau casglu llyfrau oedd wedi eu cyfieithu, llenyddiaeth Gymraeg, unrhywbeth y gallai gael gafael arno fo, a wedyn adeiladu'r casgliad hynod yma sydd dal efo ni heddiw.
Cludwyd y casgliad i Gaerdydd ym 1886 gyda chryn seremoni - mewn trên dosbarth cyntaf wedi'i archebu'n arbennig ar gyfer yr achlysur, gyda phob cerbyd yn llawn dop o lyfrau prin.
Person pwysig yn ei oes
Mae dros 18,000 o lyfrau yn y casgliad, a beth oedd o eisiau oedd ei fod yn gasgliad byw, felly rydan ni ym Mhrifysgol Caerdydd wedi parhau i ychwanegu at y casgliad.
Mi oedd o'n berson pwysig yn ei oes, ac mae eisiau adfer ychydig o'r enw da yna a dathlu ei gyfraniad at hanes Cymru, oherwydd mae rhai o'r dogfennau yma yn unigryw.
Dyma flas ar rai o'r llyfrau yn y casgliad:
Casglodd Enoch Salisbury lyfrau o bob math, gan gynnwys cyfrolau am fywyd hamdden y Cymry. Yn y Llaw-lyfr consurio Cymraeg mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud amrywiaeth o driciau peryglus - fel sut "i arddangos tori pen dyn i ffordd", sut i wneud pen llo marw "frefu ar fwrdd fel un byw" a "modd i wneud digrifwch gyda Chath".
Yn Y Cymro: sef Llawlyfr Y Wladfa Gymreig, Patagonia ar gyfer Cymry oedd yn bwriadu ymfudo yno, mae'r awdur, Y Parch D. S. Davies yn cynnig cyngor ar hinsawdd, tirwedd, a ble i ddod o hyd i fap cywir o'r ardal.
Mae hefyd yn awgrymu y dylai pob teithiwr ddod â gwely haearn gyda nhw o Gymru ar eu taith, ynghyd â llwythi o gyfarpar amaethyddol.
Roedd gan Enoch Salisbury ddiddordeb yn yr iaith fel pwnc addysgiadol, felly mae yna gasgliad o werslyfrau a llyfrau ymadrodd i ymwelwyr Saesneg i Gymru.
Os oeddech chi eisiau siarad efo 'the peasentry' mae ganddo fe lyfrau sy'n dangos beth oeddan ni'n dweud am Gymru wrth bobl eraill hefyd.
Mae 'na bamffled gwrth-gaethwasiaeth prin iawn iawn yn y casgliad sy'n olrhain hanes caethwas sy'n dianc o America, ac yn dod i Gaerddydd ac mae hwn o ddiddordeb i haneswyr sy'n dod i weld y casgliad.
Y mwya' rydan ni'n agor y cyfrolau ac yn chwiloto drwyddyn nhw rydan ni'n ffeindio llofnodion mawrion yr oes, fel Iolo Morganwg.
Roedd Iolo Morganwg yn gallu bod yn feirniadol iawn yn beth roedd yn sgrifennu mewn rhai o'r llyfrau. Yn y llyfr hwn gan un o'i ffrindiau, Dafydd Ionawr, mae wedi sgrifennu:
"budredd tommenllyd yw iaith y llyfr hwn".
A ffrind iddo fo oedd wedi sgrifennu'r llyfr!
Roedd Salisbury hefyd yn casglu gweithiau wedi'u cyfieithu, gan gynnwys cyhoeddiadau 'bob dydd' wedi'u hargraffu ar gyfer cynulleidfaoedd mawr.
Mae'r pamffled Cymraeg hwn, a gyhoeddwyd yn Llundain, yn rhybuddio yn erbyn perygl alcohol - yn arbennig, jin.
Mae'n llawn darluniau hoffus a doniol gan George Cruickshank, un o ddarlunwyr enwocaf ei oes.
Hefyd o ddiddordeb: