Y Beatles a'r bwthyn ym Mhortmeirion
- Cyhoeddwyd
Mae pentref Portmeirion ym Meirionnydd yn adnabyddus am ei bensaernïaeth Eidalaidd, ei olygfeydd godidog a'i gysylltiadau â rhaglen deledu The Prisoner. Ond oeddech chi'n ymwybodol o gysylltiadau The Beatles a Brian Epstein â'r pentre'?
Ar ei raglen ar BBC Radio Cymru, roedd Rhys Mwyn yn trafod cysylltiadau'r band eiconig o Lerpwl gyda'r pentref yng Ngwynedd.
Roedd gan Brian Epstein, rheolwr a chynhyrchydd y Beatles, fwthyn ym Mhortmeirion, a olygai ei fod o ac aelodau o'r band eiconig, ac enwogion eraill, yn ymweld â gogledd Cymru.
Bwthyn Epstein
Roedd Epstein yn mynd i'w fwthyn ym Mhortmeirion yn rheolaidd, ac yn ei ddefnyddio i gael seibiant o'r diwydiant prysur roedd yn rhan ohono.
Wrth drafod poblogrwydd bwthyn Epstein ar y rhaglen, meddai Meurig Rees Jones, Rheolwr Lleoliadau Portmeirion: "Mae bron iawn yn amhosib dod i fewn i'r bwthyn yma, mae'n llawn drwy'r amser, a gymaint o bobl yn dod yma o ar draws y byd oherwydd y cysylltiadau efo'r Beatles. Mae'n debyg bod y lle'n ysbrydoli pobl."
"Un peth sy'n drist yw yn anffodus cafon ni dân yn y gwesty yn 1981, ac mi wnaethon ni golli'r llyfrau efo enwau'r bobl ddaeth i aros efo fo [Epstein].
"Ond 'da ni'n gwybod y daeth rhan fwya' o'r Beatles yma, ond George Harrison oedd yr un efo'r fwya' o gyswllt i'r lle - roedd o wrth ei fodd efo'r lle mae'n debyg."
Cypyrddau arbennig
Yn ôl Meurig Rees Jones, roedd rhaid i Brian Epstein wneud addasiadau yn ei fwthyn: "Roedd Epstein yn hoff iawn o ffasiwn, ac roedd o'n cwyno wrth Clough [Williams-Ellis, dylunydd Portmeirion] nad oedd ganddo ddigon o le i gadw ei holl ddillad. Doedd gan Clough ddim diddordeb yn hyn, ac felly fe wnaeth Epstein gynllunio a thalu am y wardrobau ar gyfer y brif lofft."
"Mae'r ffaith bod ni wedi gallu cadw y wardrobau yma yn bwysig iawn. Maen nhw'n hen rŵan, ond ma'r ffaith bod Brian Epstein wedi cynllunio nhw yn un o'r pethau pwysica' yn yr adeilad i mi.
"Roedd o'n enwog am ei ffasiwn, ac alla' i feddwl bod y dillad oedd o'n cadw yma'n werth arian mawr - da chi byth yn gweld llun lle mae'r dyn yn edrych o'i le."
"Roedd o'n cael partïau yma, ac roedd o'n poeni bod y stafell fwyta ddim digon mawr, felly fe wnaeth Clough dipyn o waith i'r lle."
Pen-blwydd George Harrison
"Roedd o'n [Epstein] ambassador da i Portmeirion," meddai Meurig.
"Be oedd o'n gwneud oedd dod a bobl yma, a dweud 'os da chi'n arwyddo i fi, nai edrych ar ôl chi, a dyma'r fath o le 'na i fynd â chi'. Roedd hynna'n ardderchog i ni wrth gwrs, gan ei fod yn mynd nôl i Lerpwl a Llundain a siarad am ein pentre' bach ni yng Nghymru."
Mae 'na gerdyn ym Mhortmeirion wedi ei arwyddo gan George Harrison tra roedd yn aros yno gyda Epstein yn 1966, ac fe ddathlodd ei ben-blwydd yn 50 oed yno yn 1993.
Bu raid i Harrison newid y bwthyn roedd i fod i aros ynddo'n wreiddiol am fod ei staff yn poeni bod un o'r clogwyni yn rhy agos - dim yr amodau gorau ar gyfer parti gwyllt efallai.
Mae'r gwely yn yr ystafell ddefnyddiodd George Harrison yn dipyn o atyniad ym Mhortmeirion.
"Dros y ddwy flynedd diwethaf yn enwedig, 'da ni wedi cael lot o bobl o America yn dod yma. Yr wythnos diwethaf ges i ddyn o Chile yma, achos oedd o'n dod i Lerpwl i weld hanes y Beatles, a nath o ofyn i ddod i Bortmeirion.
"Os sbïwch ar Beatles Anthology, cafodd George Harrison ei gyfweld lawr grisiau, ac yng nghanol y pentref hefyd.
"Mae'r straeon wedi bod 'ma erioed, ond doedden ni byth yn gwneud dim byd efo nhw maen debyg. I feddwl bod pobl yn dod yma o America i weld y lle achos y cysylltiadau Beatles - dwin siŵr falle bod 'na bobl lleol sydd ddim yn gwybod yr hanes, a dyna pam dwi wedi dechrau gwneud taith i'r Beatles yma."
Nid Epstein a Harrison oedd y bobl enwog gyntaf i aros ym Mhortmeirion, fel esbonia Meurig Rees Jones: "Daeth Noel Coward yma yn ystod y rhyfel. Fe 'sgrifennodd y ddrama Blithe Spirit yma ac mae pobl dal yn gofyn i gael aros yn y bwthyn lle arhosodd Coward."
Crëwyd y stafell defnyddiodd George Harrison gan Clough Williams-Ellis ar gyfer y Brenin Edward VIII a Mrs Simpson cyn iddo ddod yn Frenin, ar gyfer eu taith o Gymru. Mae'r gwely lle cysgodd Edward, Mrs Simpson a Harrison, ar gael i'w llogi i'r cyhoedd.
Geni cân enwog Lerpwl?
Hefyd ar raglen Rhys Mwyn roedd Gwilym Phillips, cyn aelod o'r band The Vikings a Dino and The Wildfires, yn trafod ei atgofion o'r cyfnod.
Mae'n cofio rhannu llwyfan gyda The Beatles yn New Brighton pan oedden nhw newydd ddod nôl o Hambwrg ac yn cael eu galw yn y North Stop Group.
Mae hefyd yn cofio Paul McCartney yn chwarae yn y Queens Hotel yn Harlech a noson gofiadwy gyda Dino and the Wildfires pan gafodd cân sydd bellach yn fyd-enwog ei chwarae.
"Y noson nath Gerry Marsden a Billy Cramer chwarae yn Neuadd Goffa Cricieth, roedd Brian Epstein efo nhw," meddai Gwilym.
"Roedd Dino yn hoff o ganu You'll Never Walk Alone o'r sioe gerdd Americanaidd ac fe ganodd hi y noson honno. Roedd 'na ganoedd yn y gynulleidfa yn canu. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach fe recordiodd Gerry and the Pacemakers hi, a tua 1962 cafodd y gân ei mabwysiadu gan dîm pêl-droed Lerpwl."
Hefyd o ddiddordeb: