Ymchwilio i achosion o'r diciâu yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o achosion o'r diciâu yn cael ei ymchwilio gan fwrdd iechyd gogledd Cymru.
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Teresa Owen bod yr haint wedi dychwelyd yn y degawdau diwethaf.
Ychwanegodd bod tîm yn ymchwilio i achosion diweddar yn Wrecsam ymhlith pobl ddigartref.
Dywedodd mewn adroddiad ei bod yn disgwyl i fwy o achosion ddod i'r amlwg.
Mae'r diciâu yn haint bacterol sy'n cael ei wasgaru trwy anadlu peswch neu disian person sydd wedi'u heintio.
Yn adroddiad iechyd cyhoeddus blynyddol 2019 dywedodd Ms Owen bod "y diciâu gan amlaf yn cael effaith ar bobl sydd ag anghenion iechyd a chymdeithasol cymhleth, fyddai efallai yn ei chael yn anodd cael gafael ar y gwasanaethau priodol".
"Mae hyn yn gallu ei gwneud yn heriol iawn i ganfod a thrin pobl gyda'r diciâu yn llwyddiannus," meddai.
"Mae gan nifer o'r achosion diweddar anghenion cymdeithasol cymhleth, gan gynnwys digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau."
Mae tîm amddiffyn iechyd y bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r tîm trafferthion anadlu yn Wrecsam i ymchwilio i'r achosion.
Bydd adroddiad Ms Owen yn cael ei drafod gan y bwrdd iechyd ddydd Mercher.