Ceidwadwyr yn ymddiheuro am ofid dioddefwr achos treisio

  • Cyhoeddwyd
CeidwadwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymddiheuro am amgylchiadau'r achos treisio wnaeth ddymchwel, gan arwain yn y pendraw at ymddiswyddiad Alun Cairns.

Fe wnaeth cyn-gydweithiwr i Mr Cairns, Ross England, achosi'r achos i ddymchwel pan roddodd dystiolaeth roedd barnwr wedi dweud nad oedd modd ei rannu yn y llys.

Wyth mis yn ddiweddarach cafodd ei ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholiad Cynulliad 2021.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod yn ymddiheuro am y gofid a achoswyd i'r dioddefwr yn yr achos.

Fe wnaeth ffrae yn ymwneud â beth oedd Mr Cairns yn gwybod am yr achos arwain at ei ymddiswyddiad fel Ysgrifennydd Cymru ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alun Cairns ymddiswyddo ar ôl gwadu ei fod yn ywybodol o ran Ross England yn dymchwel yr achos

Roedd barnwr llys y goron wedi cyhuddo Mr England o ddymchwel yr achos yn erbyn ei gyfaill yn fwriadol.

Cafodd y diffynnydd, James Hackett, ei ganfod yn euog mewn achos yn ddiweddarach.

Ddydd Iau dywedodd cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, yr Arglwydd Byron Davies, ei fod yn "edifar yn ofnadwy" am y sefyllfa ac y byddan nhw'n ymddiheuro pe bai ymchwiliad mewnol yn dod i'r casgliad y dylen nhw wneud hynny.

'Cefnogi nifer o ferched'

Ond yn ddiweddarach ddydd Iau dywedodd llefarydd ar ran y blaid mewn datganiad: "Rydyn ni wir yn ymddiheuro am amgylchiadau dymchwel yr achos, a'r gofid mae'n siŵr achosodd hyn i'r dioddefwr, ei theulu a'i ffrindiau.

"Mae Mr England wedi cael ei wahardd o'r blaid ac mae ymchwiliad llawn wedi'i lansio.

"Rydyn ni'n falch o gefnogi nifer o ferched sy'n gweithio neu'n ymwneud â'n plaid ac mae gennym god moesol llym i staff a gwirfoddolwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ross England wedi cael ei wahardd gan y Blaid Geidwadol

Yn yr achos ym mis Ebrill 2018 fe wnaeth Mr England honni ei fod wedi cael perthynas rhywiol â'r dioddefwr - honiad mae hi'n ei wrthod.

Roedd y barnwr wedi dweud nad oedd hawl crybwyll hanes rhywiol y dioddefwr o flaen y rheithgor, ac fe gyhuddodd Mr England o ddymchwel yr achos yn fwriadol.

'Dim camymddwyn'

Roedd Mr Cairns, sy'n parhau'n ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg, wedi honni nad oedd yn ymwybodol o ran Mr England mewn dymchwel yr achos nes i hynny gal ei adrodd yn y wasg yr wythnos ddiwethaf.

Ond fe ymddiswyddodd wedi i BBC Cymru weld e-bost gafodd ei yrru ato yn Awst 2018 oedd yn trafod yr achos.

Yn ei lythyr at Boris Johnson ddydd Mercher dywedodd Mr Cairns y byddai'n "cydweithio'n llawn" gyda'r ymchwiliad a'i fod yn "hyderus" y byddai'r ymchwiliad yn ei glirio o "unrhyw gamymddwyn".

Hefyd yn sefyll ym Mro Morgannwg yn yr etholiad cyffredinol mae Belinda Loveluck-Edwards ar ran y Blaid Lafur ac Anthony Slaughter o'r Blaid Werdd.

Bydd yr enwebiadau'n cau ddydd Iau, 14 Tachwedd.