Ffrae Cairns yn 'dangos pam fod merched yn aros yn dawel'
- Cyhoeddwyd
Mae'r dioddefwr yn yr achos llys wnaeth arwain at ymddiswyddiad Alun Cairns fel Ysgrifennydd Cymru wedi dweud bod y sefyllfa'n dangos pam nad yw rhai merched yn adrodd troseddau yn eu herbyn.
Roedd Mr Cairns wedi gwadu ei fod yn ymwybodol o ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel yr achos treisio cyn iddo gael ei adrodd yn y wasg yr wythnos ddiwethaf.
Ond fe ymddiswyddodd ddydd Mercher wedi i BBC Cymru weld bod e-bost gafodd ei yrru ato yn trafod yr achos dros flwyddyn yn ôl.
Mae'r dioddefwr hefyd wedi galw arno i dynnu ei enw yn ôl fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol.
Mae Mr Cairns wedi derbyn cais am sylw.
Mae wedi datgan ei fwriad i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg, gan wadu "unrhyw gamymddwyn".
'A yw'n ymgeisydd addas?'
Yn yr achos yn Ebrill 2018 dywedodd barnwr fod cyn-gydweithiwr i Mr Cairns, Ross England, wedi dymchwel achos, lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf, yn fwriadol drwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.
Roedd y Blaid Geidwadol wedi dweud nad oedd Mr Cairns yn ymwybodol o fanylion yr achos nes yr wythnos ddiwethaf.
Ond fe welodd BBC Cymru e-bost gafodd ei anfon ato ym mis Awst 2018 yn sôn am y mater.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach cafodd Mr England ei ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg ar gyfer yr etholiad Cynulliad nesaf.
"Oherwydd sefyllfaoedd fel hyn dydy merched ddim yn dod ymlaen ac adrodd eu bod wedi'u treisio," meddai'r dioddefwr, sydd ddim yn cael ei henwi am resymau cyfreithiol.
"Rwy'n credu bod Alun Cairns wedi gwneud y peth cywir yn ymddiswyddo, ond dydy'r ffordd mae e wedi delio â hyn ddim yn adlewyrchu'n ffafriol ar y Blaid Geidwadol ac mae'n codi cwestiynau ynglŷn ag os yw'n ymgeisydd addas.
"Yr hyn wnaeth e oedd lleihau fy mhrofiad i fel rhywun gafodd ei threisio.
"Roedd yn ymwybodol bod Ross England wedi oedi fy hawl am gyfiawnder a fy ngwneud i fynd trwy achos arall, ac roedd yn dal i deimlo ei fod yn ymgeisydd addas.
"Mae hynny'n gwneud i mi gwestiynu ei farn a barn y blaid."
Yn ei lythyr at Boris Johnson ddydd Mercher dywedodd Mr Cairns ei fod yn ymddiswyddo o'r cabinet yn sgil y dyfalu am y "mater sensitif iawn yma".
Ychwanegodd y byddai'n "cydweithio'n llawn" gyda'r ymchwiliad ac yn "hyderus" y byddai'r ymchwiliad yn ei glirio o "unrhyw gamymddwyn".
'Ymddiheuro os bydd rhaid'
Dywedodd cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr Arglwydd Byron Davies, ei fod yn "edifar yn ofnadwy" ynghylch y ffrae o amgylch dewis Mr England fel ymgeisydd.
Ychwanegodd y byddai'r blaid yn ymddiheuro pe bai ymchwiliad mewnol yn dod i'r casgliad y dylen nhw wneud hynny.
Pwysleisiodd hefyd ei fod ddim yn gwybod fod Mr England wedi achosi dymchwel yr achos llys tan yr wythnos ddiwethaf.
Fe amddiffynnodd y ffordd mae'r blaid wedi delio â'r mater, gan ddweud eu bod "wedi delio â phethau wrth i bethau ddatblygu".
"Fe fyddwn ni'n cynnal ymchwiliad ac nid yw'n mynd i fod yn un gan y wasg, fel mae hi wedi bod hyd yma," meddai.
"Fe wnawn ni gynnal ymchwiliad iawn ac os bydd rhaid rhoi ymddiheuriad, fe rown ni ymddiheuriad a chyhoeddi ein canfyddiadau."
Nid y dioddefwr yn unig sydd wedi cwestiynu a ddylai Mr Cairns fod yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiad ar 12 Rhagfyr.
Fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, gwestiynu "hawl moesol" Mr Cairns i fod yn ymgeisydd, tra bod Liz Saville Roberts o Blaid Cymru'n dweud y dylai "fod yn anrhydeddus a thynnu'n ôl o'r etholiad".
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds nad yw Mr Cairns yn "addas i gynrychioli Cymru".
Hefyd yn sefyll ym Mro Morgannwg yn yr etholiad cyffredinol mae Belinda Loveluck-Edwards ar ran y Blaid Lafur ac Ian Johnson o Blaid Cymru.
Sally Stephenson yw ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a bydd yr enwebiadau'n cau ddydd Iau, 14 Tachwedd.
Mae Ross England wedi cael ei wahardd fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholiad y Cynulliad
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2019